2011 Rhif 2184 (Cy.236)
Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77(2) a 90(3)(a) o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 a pharagraffau 1, 2, 4, 7, 9 a 10 o Atodlen 6 iddi1.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) (Diwygio) 2011.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2011 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 20102.
Diwygio Rheoliadau 20102
1
Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 8.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)3
1
Yn rheoliad 2(1)—
a
yn lle'r diffiniad o “y tâl” (“the charge”) rhodder—
ystyr “y tâl” (“the charge”) yw isafswm y gydnabyddiaeth y mae'n rhaid i gwsmer ei thalu yn rhinwedd rheoliad 6(2);
b
mewnosoder yn y mannau priodol—
i
mae “cydnabyddiaeth” (“consideration”) yn cynnwys unrhyw TAW y gellir ei godi;
ii
mae i “TAW” (“VAT”) yr ystyr a roddir i “VAT” yn adran 96 o Ddeddf Treth ar Werth 19943.
Diwygio rheoliad 6 (gofyniad i godi tâl)4
Yn lle rheoliad 6 rhodder—
Gofyniad i godi tâl6
1
Rhaid i werthwr godi tâl am bob bag siopa untro newydd a gyflenwir—
a
yn y lle yng Nghymru lle y gwerthir y nwyddau, at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cymryd oddi yno;
b
at ddibenion galluogi'r nwyddau i gael eu cyflenwi i bersonau yng Nghymru.
Mae hyn yn ddarostyngedig i reoliad 7.
2
Y swm y mae'n rhaid i werthwr ei godi yw'r swm hwnnw sy'n sicrhau bod y gydnabyddiaeth a delir gan gwsmer am bob bag siopa untro ddim llai na 5 ceiniog.
Ychwanegu rheoliad 7A (cymhwyso Rhan 3)5
Yn Rhan 3 (cofnodion a chyhoeddi) o flaen rheoliad 8 (cadw cofnodion) mewnosoder—
Cymhwyso'r Rhan hon7A
1
Mae'r Rhan hon yn gymwys i werthwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn adrodd y mae'r gwerthwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ynddi.
2
Yr amod yw bod y gwerthwr yn cyflogi staff sy'n cyfateb i ddeg aelod llawnamser neu fwy ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn adrodd.
Amnewid rheoliad 8 (cadw cofnodion)6
Yn lle rheoliad 8, rhodder—
Cadw cofnodion8
1
Rhaid i werthwr gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer pob blwyddyn adrodd.
2
Rhaid i werthwr ddal gafael ar gofnodion am gyfnod o dair blynedd gan gychwyn ar 31 Mai yn y flwyddyn adrodd yn dilyn honno y mae cofnod yn berthnasol iddi.
3
Dyma'r wybodaeth—
a
nifer y bagiau siopa untro a gyflenwir sy'n denu'r tâl;
b
y swm a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl ;
c
y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd;
ch
enillion net y tâl4;
d
dadansoddiad o sut y daethpwyd at y swm sy'n cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng y swm a gafwyd drwy'r tâl a godwyd ac enillion net y tâl, gan gynnwys—
i
y dosraniad rhwng unrhyw TAW y gellir ei chodi a chostau rhesymol;
ii
y dosraniad rhwng pennau gwahanol o gostau rhesymol;
dd
at ba ddibenion y defnyddiwyd enillion net y tâl.
4
Y canlynol yw'r symiau penodedig at ddibenion y diffiniad o “net proceeds of the charge” ym mharagraff 7(4) Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 20085—
a
unrhyw swm sy'n fwy na'r tâl a gafwyd yn gydnabyddiaeth am fagiau siopa untro sy'n denu'r tâl;
b
unrhyw swm o TAW y gellir ei chodi a gafwyd drwy'r tâl;
c
swm unrhyw gostau rhesymol.
5
Yn y rheoliad hwn ystyr “costau rhesymol” (“reasonable costs”) yw—
a
costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
b
costau y mae gwerthwr yn rhesymol yn mynd iddynt i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.
Mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).
6
Mewn perthynas â'r flwyddyn adrodd gyntaf, mae “costau rhesymol” yn cynnwys costau yr aeth gwerthwr iddynt cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym—
a
i alluogi'r gwerthwr i gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn;
b
i alluogi'r gwerthwr i gyfathrebu gwybodaeth am y tâl i gwsmeriaid.
Diwygio rheoliad 13 (cyfuniad o gosbau)7
Yn lle rheoliad 13(1) rhodder —
1
Ni chaiff gweinyddwr gyflwyno hysbysiad o fwriad sy'n ymwneud â chosb ariannol benodedig i werthwr yn unrhyw un neu ragor o'r amgylchiadau canlynol—
a
pan fo gofyniad yn ôl disgresiwn wedi cael ei osod ar y gwerthwr hwnnw mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn;
b
pan fo'r gwerthwr wedi rhyddhau ei hun rhag atebolrwydd i gosb ariannol benodedig mewn perthynas â'r un toriad yn y Rheoliadau hyn drwy dalu swm penodedig;
c
pan fo cosb ariannol benodedig eisoes wedi ei gosod mewn perthynas â'r un weithred neu anwaith.
Diwygio Atodlen 1 (esemptiadau)8
1
Ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1—
a
o flaen paragraff (a) mewnosoder—
za
bagiau a ddefnyddir yn unig i gynnwys un neu fwy o eitemau o'r mathau canlynol—
i
bwyd heb ei becynnu ar gyfer ei fwyta gan bobl neu gan anifeiliaid;
ii
hadau, bylbiau, cormau neu risomau rhydd heb eu pecynnu;
iii
unrhyw fwyell, cyllell, llafn cyllell neu lafn rasel heb eu pecynnu;
iv
nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;
v
eitemau o'r categorïau a bennir yn is-baragraff (2);
b
hepgorer paragraffau (a) i (ch) ac (dd);
c
yn lle paragraff (ff) , rhodder—
ff
bagiau anfon archeb drwy'r post a bagiau negeseuwyr;
ch
hepgorer is-baragraff (k).
2
Ym mharagraff 1(2)(b) o Atodlen 1 hepgorer y geiriau “neu pan gyflenwir”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)