(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wneir gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn adrannau 1 i 13 yn gynwysedig o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008 (“y Mesur”), gan fod yn effeithiol o 7 Chwefror 2011 ymlaen.
Cychwynnwyd adran 14 o'r Mesur hwn drwy Gydsyniad Brenhinol.
Pan wneir y Gorchymyn hwn, bydd holl adrannau'r Mesur mewn grym.
Mae effaith darpariaethau'r Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 7 Chwefror 2011 fel a ganlyn:
Mae adran 1 yn sefydlu pŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau at ddiben galluogi darparu iawn heb godi achos sifil o dan amgylchiadau pan fydd adran 1 yn gymwys. Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau pan fo atebolrwydd cymwys mewn camwedd, fel y'i diffinnir yn is-adran (4), ar ran person neu gorff a grybwyllir yn is-adran (3) yn codi mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau cymwys, yng Nghymru neu yn rhywle arall, fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae adran 2 yn darparu, yn ddarostyngedig i is-adrannau (2), (3) a (6), y caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag iawn.
Mae adran 3 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, mewn rheoliadau, wneud unrhyw ddarpariaeth y maent yn barnu ei bod yn addas ynglŷn ag ymofyn am iawn.
Mae adran 4 yn darparu y caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson neu gorff a grybwyllir yn is-adran (2) ystyried y posibilrwydd o gymhwyso trefniadau iawn ac i gymryd unrhyw gamau y mae'r rheoliadau yn eu darparu.
Mae adran 5 yn darparu, yn ddarostyngedig i is-adrannau (3) i (6), y caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ynglŷn â sut y mae iawn i'w ddarparu.
Mae adran 6 yn darparu bod yn rhaid i reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ar gyfer diystyru'r cyfnod pryd y mae atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y rheoliadau at ddibenion cyfrifo p'un a yw unrhyw gyfnod cyfyngiad perthnasol wedi dod i ben ai peidio.
Mae adran 7 yn darparu, yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (4), y caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas ar gyfer darparu cyngor cyfreithiol di-dâl i unigolion sy'n ceisio iawn o dan y rheoliadau ac ar gyfer darparu gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau arbenigwyr meddygol, mewn cysylltiad â chais am iawn o dan y rheoliadau.
Mae adran 8 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i drefnu, i'r graddau y maent yn barnu ei bod yn angenrheidiol er mwyn diwallu pob gofyniad rhesymol, ar gyfer darpary cymorth i unigolion sy'n ceisio iawn, neu'n bwriadu ceisio iawn, o dan y rheoliadau. Mae hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud unrhyw drefniadau eraill y maent yn barnu eu bod yn addas ar gyfer darparu cymorth i unigolion mewn cysylltiad ag achosion sy'n destun cais am iawn o dan y rheoliadau.
Mae adran 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod mewn rheoliadau y swyddogaethau a fydd gan unrhyw berson neu gorff yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru o ran gweithredu'r trefniadau iawn.
Mae adran 10 yn mewnosod is-adran newydd 113(2)(d) yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
Mae adran 11 yn ymdrin â gwneud gorchmynion a rheoliadau o dan y Mesur.
Mae adran 12 yn ymdrin â'r pŵer i wneud darpariaethau atodol a chanlyniadol gan gynnwys y pŵer i ddiwygio neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad a basiwyd cyn y Mesur neu yn ystod yr un flwyddyn Gynulliad â'r Mesur.
Mae adran 13 yn ymdrin â dehongli'r Mesur.