(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn cymryd lle Is-ddeddf 5 (Trwydded i Bysgota am Gocos (Cerastoderma edule) a Chregyn Gleision (Mytilis edulis)) y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru blaenorol (“y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr”).

Diddymwyd y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr, o ran Cymru, ar 1 Ebrill 2010 pan ddiddymwyd Deddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 gan adran 187 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (“Deddf 2009”).

Mae Is-ddeddf 5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr wedi cael effaith ers 1 Ebrill 2010 fel pe bai wedi ei gwneud gan Weinidogion Cymru mewn offeryn statudol, yn rhinwedd erthygl 13(3) o Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 (“Gorchymyn 2010”) ac Atodlen 4 iddo.

Daw Is-ddeddf 5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr i ben ar 31 Awst 2011, ac y mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn cymryd lle darpariaethau'r Is-ddeddf honno.

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, yn ddarostyngedig i eithriadau a ddatgenir, yn gwahardd pysgota am gocos a chregyn gleision o fewn yr ardal benodedig onid ymgymerir â'r gweithgaredd hwnnw yn unol â thrwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd fod deiliaid trwydded, tra'n pysgota o fewn yr ardal benodedig, yn gallu dangos trwydded os gofynnir iddynt.

Yr ardal benodedig yw'r rhan honno o Gymru a oedd gynt yn ffurfio rhan o ddosbarth y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr.

Mae'r eithriadau i'r gwaharddiad a bennir yn erthygl 3 yn ymwneud ag unigolion sy'n cymryd â llaw, ddim mwy na 5kg o gocos a 5kg o gregyn gleision ar unrhyw un diwrnod, rhai sy'n cymryd cocos a chregyn gleision tra bônt ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig cofrestredig a rhai sy'n cymryd cocos a chregyn gleision yn unol â Gorchymyn a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967.

Mae erthygl 4 yn darparu y bydd trwydded yn ddilys rhwng 1 Medi mewn un flwyddyn a 31 Awst yn y flwyddyn ddilynol.

Mae erthygl 5 yn darparu bod rhaid i gais am drwydded gael ei wneud i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf, ac ynghyd â pha bynnag brawf adnabod a phrawf cyfeiriad, sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru. Mae'n darparu hefyd y caniateir gwneud ceisiadau o'r fath ar neu ar ôl 1 Gorffennaf yn y flwyddyn y bwriedir i'r drwydded y gwneir cais amdani gychwyn.

Mae erthygl 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi trwydded i unrhyw berson a oedd yn dal trwydded gyffelyb i bysgota am gocos a chregyn gleision yn yr ardal benodedig yn ystod y tymor yn union cyn tymor y drwydded y gwneir cais amdani. Mae'r erthygl hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddyroddi deugain o drwyddedau newydd bob blwyddyn i geiswyr nad oeddent yn dal trwydded gyffelyb i bysgota am gocos a chregyn gleision yn yr ardal benodedig yn ystod y tymor yn union cyn tymor y drwydded y gwneir cais amdani, ar yr amod bod y ceiswyr hynny'n ddeiliaid Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth gyfredol a ddyroddwyd gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr.

Mae erthygl 7 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod amodau ar y drwydded. Mae'r erthygl hefyd yn darparu bod pob trwydded yn awdurdodi'r person a enwir, yn unig, i bysgota, ac na cheir trosglwyddo'r drwydded i neb arall.

Mae erthygl 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob deiliad trwydded yn cyflwyno manylion o'i ddaliadau, ar, neu cyn, y pumed diwrnod o'r mis sy'n dilyn y mis y cymerwyd y cocos a'r cregyn gleision o'r ardal benodedig.

Mae erthygl 9 yn dirymu Is-ddeddf 5 y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr ac yn gwneud y diwygiad canlyniadol angenrheidiol yng Ngorchymyn 2010.

Ni pharatowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Gorchymyn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar gostau busnesau na'r sector gwirfoddol.