2011 Rhif 1988 (Cy.219)
Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 189(1) a 316(1) o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 20091.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011, a daw i rym ar 1 Medi 2011.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;
ystyr “cocos” (“cockles”) yw unrhyw bysgod cregyn o'r math Cerastoderma edule;
ystyr “cregyn gleision” (“mussels”) yw unrhyw bysgod cregyn o'r math Mytilus edulis;
ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 19952 neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i fod yn berchnogion llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf honno;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20063;
ystyr “pysgod cregyn penodedig” (“specified shellfish”) yw cocos a chregyn gleision;
ystyr “trwydded” (“permit”) yw trwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn; ac
ystyr “Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth” (“Foreshore Gatherers Safety Training Certificate”) yw dogfen a ddyroddwyd gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr, sy'n ardystio bod y ceisydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant diogelwch ar gyfer pysgota rhynglanwol am bysgod cregyn.
Cyfyngiadau ar bysgota3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb bysgota am bysgod cregyn penodedig na chymryd pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig, oni wnânt hynny'n unol ag amodau trwydded.
2
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson—
a
sy'n cymryd â llaw ddim mwy na phum cilogram mewn pwysau byw o gocos a phum cilogram mewn pwysau byw o gregyn gleision, ar unrhyw un diwrnod at ei ddefnydd personol;
b
sy'n cymryd y pysgod cregyn penodedig tra bo ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig; neu
c
sy'n cymryd y pysgod cregyn penodedig yn unol â Gorchymyn a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 19674.
3
Rhaid i unrhyw berson sy'n pysgota am y pysgod cregyn penodedig neu sy'n cymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig ddangos copi o'i drwydded os gofynnir iddo wneud hynny gan berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru.
4
Rhaid i unrhyw berson y gofynnwyd iddo ddangos trwydded yn unol â pharagraff (3) beidio â physgota am y pysgod cregyn penodedig, na chymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig, hyd nes bo'r drwydded honno wedi ei dangos.
Parhad trwydded, gwneud cais am drwydded a thelerau trwydded
4
Bydd trwydded yn ddilys o 1 Medi mewn un flwyddyn tan 31 Awst yn y flwyddyn ddilynol.
5
1
Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am drwydded gwblhau a chyflwyno cais i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
2
Rhaid i gais yn unol â pharagraff (1) gael ei gyflwyno ynghyd â pha bynnag brawf adnabod a phrawf cyfeiriad sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
3
Ceir gwneud cais yn unol â pharagraff (1) ar, neu ar ôl, 1 Gorffennaf yn yr un flwyddyn ag y bwriedir i'r drwydded gychwyn.
6
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi trwydded—
a
i unrhyw berson a oedd yn ddeiliad trwydded i bysgota am y pysgod cregyn penodedig neu i gymryd y pysgod cregyn penodedig yn yr ardal benodedig yn ystod y cyfnod o 1 Medi yn y flwyddyn flaenorol hyd at 31 Awst yn y flwyddyn y bydd y drwydded y gwneir cais amdani yn cychwyn; a
b
i ddeugain ceisydd sy'n ddeiliaid Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth gyfredol.
2
Bydd ceisiadau am y trwyddedau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi yn unol ag is-baragraff (1)(b) yn cael eu hystyried yn y drefn gronolegol y deuant i law, a dyroddir y deugain trwydded hynny i'r deugain cyntaf o geiswyr pan fo'u cymhwystra i'w cael yn unol â'r is-baragraff hwnnw wedi ei gadarnhau.
7
Yn achos trwydded—
a
caiff gynnwys pa bynnag amodau mewn perthynas â physgota am y pysgod cregyn penodedig, neu gymryd y pysgod cregyn penodedig, ag a bennir gan Weinidogion Cymru;
b
mae'n awdurdodi'r deiliad trwydded hwnnw a enwir, yn unig, i bysgota am y pysgod cregyn penodedig, neu i gymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig; ac
c
nid yw'n drosglwyddadwy.
8
1
Rhaid i berson sy'n pysgota am bysgod cregyn penodedig, neu sy'n cymryd pysgod cregyn penodedig, o fewn yr ardal benodedig, gyflwyno manylion o'i ddaliadau i Weinidogion Cymru ar, neu cyn, y pumed diwrnod o'r mis calendr sy'n dilyn y mis y bu'n pysgota am y pysgod cregyn hynny neu'n eu cymryd.
2
Rhaid i fanylion daliadau, at ddibenion paragraff (1), gofnodi—
a
dyddiad pob daliad o bysgod cregyn penodedig;
b
cyfanswm pwysau byw yr holl gocos a gymerwyd ar y dyddiad hwnnw;
c
cyfanswm pwysau byw yr holl gregyn gleision a gymerwyd ar y dyddiad hwnnw;
ch
y lleoliad y cymerwyd y pysgod cregyn penodedig ohono; a
d
pa bynnag wybodaeth bellach a fynnir gan Weinidogion Cymru ac yr hysbysir y deiliad trwydded ohoni o bryd i'w gilydd.
Dirymu a diwygio canlyniadol9
1
2
Yn y Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 20107, dileer y rhes sy'n ymwneud ag Is-ddeddf 5.
ATODLENYR ARDAL BENODEDIG
1
Yn ddarostyngedig i baragraff 2, yr ardal benodedig yw'r gyfran o'r môr sydd o fewn chwe milltir forol i'r gwaelodlinau yng Nghymru ac o fewn y terfynau canlynol—
a
yn y gogledd, llinell a dynnir rhwng y cyfesurynnau yn aber Afon Dyfrdwy, a bennir yn Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 19998; a
b
yn y de, llinell a dynnir i'r gogledd-orllewin cywir o eithafbwynt gogleddol Trwyn Cemaes yn sir Ceredigion.
2
Nid yw'r ardal benodedig yn ymestyn uwchlaw llinell a dynnir yng ngheg neu gerllaw ceg pob afon neu ffrwd sy'n llifo i'r môr neu i unrhyw aber, neu geg yr aberoedd, o fewn terfynau'r ardal benodedig fel a ganlyn—
a
llinell a dynnir ar draws afon Dyfrdwy (Dee) o Drwyn Hilbre i eithafbwynt gogledd-orllewinol Ynys Hilbre ym Mwrdeistref Fetropolitanaidd Cilgwri, ac oddi yno at y goleudy nas defnyddir mwyach yn y Parlwr Du yn Sir y Fflint;
b
llinell a dynnir ar draws afon Clwyd ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario ffordd yr A548 yn y Rhyl;
c
llinellau a dynnir ar draws afonydd Conwy ac Abergwyngregyn, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r pontydd rheilffordd dros yr afonydd hynny, ger Conwy ac Abergwyngregyn yn eu trefn;
ch
linell a dynnir ar draws afon Seiont ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario ffordd yr A487 yng Nghaernarfon;
d
llinell a dynnir ar draws ceg Bae'r Foryd (afon Gwyrfai) o Dŷ Calch at y polyn fflag yn Fort Belan;
dd
llinell a dynnir ar draws afon Cefni, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario ffordd yr A4080 ym Malltraeth;
e
llinell a dynnir ar draws afon Soch ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario ffordd yr A499 yn Abersoch;
f
llinell a dynnir ar draws afon Erch, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o bont y rheilffordd yn Harbwr Pwllheli;
ff
llinell a dynnir ar draws afon Rhyd-hir, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario Ffordd-y-Còb ar ochr orllewinol Harbwr Pwllheli;
g
llinell a dynnir ar draws afon Glaslyn, ar hyd ochr y môr i'r còb ger Porthmadog;
ng
llinellau a dynnir ar draws afonydd Dwyryd ac Artro, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r pontydd rheilffordd dros yr afonydd hynny, ger Gorsafoedd Llandecwyn a Llanbedr a Phen-sarn, yn eu trefn.
h
llinellau a dynnir ar draws afonydd Ysgethin a Dysynni, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r pontydd rheilffordd dros yr afonydd hynny, ger Tal-y-bont a Thonfannau, yn eu trefn;
i
llinell a dynnir ar draws afon Mawddach, o'r pwynt ar ei glan ogleddol lle mae ffrwd Cwm-llechen yn ymuno â hi ger y Bont-ddu, hyd at y pwynt ar y lan ddeheuol lle mae ffrwd Gwynant yn ymuno â hi;
j
llinell a dynnir ar draws afon Dyfi, o'r trwyn yn Nhrefri at ategwaith de-orllewinol pont y rheilffordd ar draws ffrwd Tre'r-ddôl (afon Cletwr);
l
llinell a dynnir ar draws afon Aeron, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario ffordd yr A487 yn Aberaeron;
ll
llinell a dynnir ar draws afon Teifi, ar hyd yr ochr sy'n wynebu'r môr o'r bont sy'n cario ffordd yr A487 yn Aberteifi; ac
m
llinell a dynnir ar draws pob afon neu ffrwd nas enwir uchod, a'r llinell honno'n barhad o'r arfordir ar benllanw cymedrig y gorllanw.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)