Search Legislation

Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011, a daw i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn;

ystyr “cocos” (“cockles”) yw unrhyw bysgod cregyn o'r math Cerastoderma edule;

ystyr “cregyn gleision” (“mussels”) yw unrhyw bysgod cregyn o'r math Mytilus edulis;

ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995(1) neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i fod yn berchnogion llongau Prydeinig at ddibenion y Rhan honno o'r Ddeddf honno;

mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);

ystyr “pysgod cregyn penodedig” (“specified shellfish”) yw cocos a chregyn gleision;

ystyr “trwydded” (“permit”) yw trwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag erthygl 6 o'r Gorchymyn hwn; ac

ystyr “Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth” (“Foreshore Gatherers Safety Training Certificate”) yw dogfen a ddyroddwyd gan Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr, sy'n ardystio bod y ceisydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant diogelwch ar gyfer pysgota rhynglanwol am bysgod cregyn.

Cyfyngiadau ar bysgota

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb bysgota am bysgod cregyn penodedig na chymryd pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig, oni wnânt hynny'n unol ag amodau trwydded.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sy'n cymryd â llaw ddim mwy na phum cilogram mewn pwysau byw o gocos a phum cilogram mewn pwysau byw o gregyn gleision, ar unrhyw un diwrnod at ei ddefnydd personol;

(b)sy'n cymryd y pysgod cregyn penodedig tra bo ar fwrdd cwch pysgota Prydeinig; neu

(c)sy'n cymryd y pysgod cregyn penodedig yn unol â Gorchymyn a wnaed o dan adran 1 o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967(3).

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n pysgota am y pysgod cregyn penodedig neu sy'n cymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig ddangos copi o'i drwydded os gofynnir iddo wneud hynny gan berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i unrhyw berson y gofynnwyd iddo ddangos trwydded yn unol â pharagraff (3) beidio â physgota am y pysgod cregyn penodedig, na chymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig, hyd nes bo'r drwydded honno wedi ei dangos.

Parhad trwydded, gwneud cais am drwydded a thelerau trwydded

4.  Bydd trwydded yn ddilys o 1 Medi mewn un flwyddyn tan 31 Awst yn y flwyddyn ddilynol.

5.—(1Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am drwydded gwblhau a chyflwyno cais i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i gais yn unol â pharagraff (1) gael ei gyflwyno ynghyd â pha bynnag brawf adnabod a phrawf cyfeiriad sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Ceir gwneud cais yn unol â pharagraff (1) ar, neu ar ôl, 1 Gorffennaf yn yr un flwyddyn ag y bwriedir i'r drwydded gychwyn.

6.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi trwydded—

(a)i unrhyw berson a oedd yn ddeiliad trwydded i bysgota am y pysgod cregyn penodedig neu i gymryd y pysgod cregyn penodedig yn yr ardal benodedig yn ystod y cyfnod o 1 Medi yn y flwyddyn flaenorol hyd at 31 Awst yn y flwyddyn y bydd y drwydded y gwneir cais amdani yn cychwyn; a

(b)i ddeugain ceisydd sy'n ddeiliaid Tystysgrif Hyfforddiant Diogelwch Casglwyr Blaendraeth gyfredol.

(2Bydd ceisiadau am y trwyddedau y caiff Gweinidogion Cymru eu dyroddi yn unol ag is-baragraff (1)(b) yn cael eu hystyried yn y drefn gronolegol y deuant i law, a dyroddir y deugain trwydded hynny i'r deugain cyntaf o geiswyr pan fo'u cymhwystra i'w cael yn unol â'r is-baragraff hwnnw wedi ei gadarnhau.

7.  Yn achos trwydded—

(a)caiff gynnwys pa bynnag amodau mewn perthynas â physgota am y pysgod cregyn penodedig, neu gymryd y pysgod cregyn penodedig, ag a bennir gan Weinidogion Cymru;

(b)mae'n awdurdodi'r deiliad trwydded hwnnw a enwir, yn unig, i bysgota am y pysgod cregyn penodedig, neu i gymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig; ac

(c)nid yw'n drosglwyddadwy.

8.—(1Rhaid i berson sy'n pysgota am bysgod cregyn penodedig, neu sy'n cymryd pysgod cregyn penodedig, o fewn yr ardal benodedig, gyflwyno manylion o'i ddaliadau i Weinidogion Cymru ar, neu cyn, y pumed diwrnod o'r mis calendr sy'n dilyn y mis y bu'n pysgota am y pysgod cregyn hynny neu'n eu cymryd.

(2Rhaid i fanylion daliadau, at ddibenion paragraff (1), gofnodi—

(a)dyddiad pob daliad o bysgod cregyn penodedig;

(b)cyfanswm pwysau byw yr holl gocos a gymerwyd ar y dyddiad hwnnw;

(c)cyfanswm pwysau byw yr holl gregyn gleision a gymerwyd ar y dyddiad hwnnw;

(ch)y lleoliad y cymerwyd y pysgod cregyn penodedig ohono; a

(d)pa bynnag wybodaeth bellach a fynnir gan Weinidogion Cymru ac yr hysbysir y deiliad trwydded ohoni o bryd i'w gilydd.

Dirymu a diwygio canlyniadol

9.—(1Dirymir, mewn perthynas â Chymru, Is-ddeddf 5 (Trwydded i Bysgota am Gocos (Cerastoderma edule) a Chregyn Gleision (Mytilis edulis))(4) y Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru blaenorol(5).

(2Yn y Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010(6), dileer y rhes sy'n ymwneud ag Is-ddeddf 5.

Alun Davies

Y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd, o dan awdurdod y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, un o Weinidogion Cymru

10 Awst 2011

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources