Parhad trwydded, gwneud cais am drwydded a thelerau trwydded7

Yn achos trwydded—

a

caiff gynnwys pa bynnag amodau mewn perthynas â physgota am y pysgod cregyn penodedig, neu gymryd y pysgod cregyn penodedig, ag a bennir gan Weinidogion Cymru;

b

mae'n awdurdodi'r deiliad trwydded hwnnw a enwir, yn unig, i bysgota am y pysgod cregyn penodedig, neu i gymryd y pysgod cregyn penodedig o fewn yr ardal benodedig; ac

c

nid yw'n drosglwyddadwy.