Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio:

(a)Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/148 (Cy.32)) (“Rheoliadau 2011”);

(b)Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/886 (Cy.130)) (“Rheoliadau 2012”);

(c)Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/736 (Cy.113)) (“Rheoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd”);

(ch)Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3359 (Cy.295)) (“Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd”);

(d)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/2310 (Cy.181)) (“y Rheoliadau Ffioedd”); ac

(dd)Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/691 (Cy.103)) (“Rheoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol”).

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr i'r personau hynny sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 5 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn Atodlen 1 i Reoliadau 2011 sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 4.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau 2012 ac mae rheoliadau 9 i 11 yn gwneud diwygiadau cyfatebol i Reoliadau'r Sefydliadau Ewropeaidd.

Mae rheoliad 13 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn rheoliad 3 o Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae'r diwygiad hwn yn estyn y cymhwystra i gael cymorth i fyfyrwyr i'r personau hynny sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny'n wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 14 yn diwygio'r diffiniad o “aelod o deulu” ym mharagraff 1(1) o Atodlen 1 i Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Mae'r diwygiad hwn yn rhoi yn lle'r cyfeiriad at “plentyn” un sy'n cyfeirio at ddisgynyddion uniongyrchol y person, neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed, neu'n ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y diffiniad o “aelod o deulu” yn Rheoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd bellach yn cyfateb i ddiffiniad y term hwnnw yn Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012. Mae rheoliad 15 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 13.

Mae rheoliad 17 yn diwygio'r diffiniad o “aelod o'r teulu” yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r diwygiad hwn yn rhoi yn lle'r cyfeiriad at “plentyn” un sy'n cyfeirio at ddisgynyddion uniongyrchol y person, neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed, neu'n ddibynyddion y person neu'n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person. Mae'r diwygiad hwn yn golygu bod y diffiniad o “aelod o'r teulu” yn y Rheoliadau Ffioedd bellach yn cyfateb i ddiffiniad y term hwnnw yn Rheoliadau 2011 a Rheoliadau 2012. Mae rheoliad 18 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu aros” yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd. Mae'r diffiniad diwygiedig hwn yn estyn y categorïau o berson na chaniateir codi ffioedd dysgu ('tramor') uwch arno, drwy gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 19 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn yr Atodlen i'r Rheoliadau Ffioedd sydd yn ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 18.

Mae rheoliad 21 yn diwygio'r diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” yn yr Atodlen i Reoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol. Mae'r diffiniad diwygiedig hwn yn estyn y categorïau o bersonau cymhwysol a ragnodir gan y Rheoliadau hynny, drwy gynnwys personau sydd wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn (a'u priod, partneriaid sifil a'u plant) p'un a yw'r personau hynny wedi bod yn wrthrych cais am loches sydd wedi methu ai peidio. Mae rheoliad 22 yn gwneud diwygiadau i'r categori perthnasol o fyfyriwr yn yr Atodlen i Reoliadau'r Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol sydd yn ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed gan reoliad 21.