- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 7
1. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn yr ysgol ac enwau'r pennaeth a chadeirydd y corff llywodraethu.
2. Dosbarthiad yr ysgol yn un o'r canlynol—
(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig;
(b)ysgol gynradd, ysgol ganol neu ysgol uwchradd;
(c)ysgol gyfun, ysgol ramadeg(1) neu ysgol sy'n dethol yn rhannol;
(ch)ysgol gydaddysgol neu ysgol un rhyw;
(d)ysgol ddydd neu ysgol fyrddio neu ysgol sy'n derbyn disgyblion dydd a disgyblion byrddio;
ac eithrio at ddibenion is-baragraff (b) neu (c) caniateir defnyddio terminoleg arall.
3. Y categori iaith yn y datganiad CYBLD diweddaraf i Weinidogion Cymru a oedd yn disgrifio'r ysgol yn fwyaf cywir.
4. O ran ysgolion heblaw ysgolion arbennig, manylion y polisi derbyn a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol mewn perthynas â phob oedran pan gaiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol (gan gynnwys oedrannau dros ac o dan oedran ysgol gorfodol).
5. Pan fo trefniadau penodedig ar i rieni sy'n ystyried anfon eu plentyn i'r ysgol, i ymweld â'r ysgol, honno, manylion y trefniadau hynny.
6. Yn achos ysgol uwchradd neu ysgol (ac eithrio ysgol arbennig) sy'n darparu addysg uwchradd, pan fo gwybodaeth ar gael—
(a)nifer y lleoedd ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol yn yr ysgol a oedd ar gael ar ddechrau'r flwyddyn ysgol yn union cyn blwyddyn dderbyn yr ysgol;
(b)nifer y ceisiadau ysgrifenedig am leoedd o'r fath o ddechrau'r flwyddyn honno neu (fel y bo'n briodol) dewisiadau a fynegwyd am leoedd o'r fath yn yr ysgol yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 86(1) o Ddeddf 1998;
(c)nifer yr apelau a wnaed yn unol ag adran 94 o Ddeddf 1998 cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ddiweddaraf a nifer yr apelau hynny a fu'n llwyddiannus.
7. Datganiad ar y cwricwlwm ac ar drefn yr addysg a'r dulliau addysgu yn yr ysgol, gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau penodol o ddisgyblion, gan gynnwys y rheini â datganiadau anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996(2).
8. Crynodeb o'r polisi a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol gan y corff llywodraethu mewn perthynas â phlant ag anghenion addysgol arbennig fel y mae'n ymddangos o'r wybodaeth a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethu o dan reoliadau 3 i 4 o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Gwybodaeth) (Cymru) 1999(3).
9. Datganiad byr ar ethos a gwerthoedd yr ysgol.
10. Datganiad byr ar bwy a gafodd ei ddynodi yn aelod o'r staff yn yr ysgol a chanddo gyfrifoldeb am hybu cyflawniad addysgol y plant sy'n derbyn gofal a rôl y person hwnnw a datganiad byr ar y polisïau a fabwysiadwyd ar gyfer yr ysgol i gefnogi a hybu cyflawniad addysgol plant sy'n derbyn gofal.
11. Gwybodaeth am y dull y mae cwynion i'w gwneud o dan drefniadau a wnaed yn unol ag adran 409 o Ddeddf 1996(4).
12. Crynodeb o gynnwys a threfn y rhan honno o'r cwricwlwm sy'n ymwneud ag addysg rhyw (pan fo addysg o'r fath yn ffurfio rhan o gwricwlwm seciwlar yr ysgol).
13. Crynodeb o unrhyw addysg gyrfaoedd a ddarperir ac unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer profiadau sy'n canolbwyntio ar waith i ddisgyblion.
14. Crynodeb o unrhyw nodau chwaraeon gan yr ysgol a'r darpariaethau a wnaed i ddisgyblion yn yr ysgol i gymryd rhan mewn chwaraeon gan gynnwys crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd.
15. Cysylltiadau'r ysgol, os oes rhai, â chrefydd benodol neu ag enwad crefyddol penodol.
16. Heb ragfarnu paragraff 15, crynodeb byr o'r addysg grefyddol a ddarperir yn yr ysgol.
17. Gwybodaeth am unrhyw drefniadau i riant neu i ddisgybl chweched dosbarth i arfer eu hawliau o dan adran 71 o Ddeddf 1998(5) mewn perthynas â phresenoldeb disgybl mewn addoliad crefyddol neu addysg grefyddol, ac o unrhyw ddarpariaeth amgen a wnaed i'r disgyblion o dan sylw.
18. Gwybodaeth am unrhyw benderfyniad a wnaed gan gyngor ymgynghorol sefydlog mewn perthynas â'r ysgol o dan adran 394 o Ddeddf 1996(6).
19. Crynodeb o'r polisïau ar godi tâl a pheidio â chodi tâl a benderfynwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol o dan adran 457 o Ddeddf 1996.
20. Ar gyfer blwyddyn dderbyn yr ysgol—
(a)yr amserau y mae pob sesiwn ysgol yn dechrau ac yn gorffen ar ddiwrnod ysgol; a
(b)dyddiadau gwyliau'r ysgol (gan gynnwys gwyliau hanner tymor) yn ystod blwyddyn dderbyn yr ysgol.
21. Crynodeb o unrhyw drefniadau arbennig ar gyfer derbyn disgyblion anabl i'r ysgol ac ar gyfer galluogi'r disgyblion hynny i gael mynediad i unrhyw ran o fangreoedd yr ysgol, ynghyd â manylion o unrhyw gamau a gymrwyd i atal disgyblion anabl rhag cael eu trin yn llai ffafriol na disgyblion nad ydynt yn anabl.
22. Crynodeb o unrhyw bolisïau a fabwysiadwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ynghylch cyfleoedd cyfartal.
23. Crynodeb o'r trefniadau a wnaed ar gyfer diogelwch disgyblion a staff yn yr ysgol a mangreoedd yr ysgol.
24. Crynodeb o'r darpariaethau a geir yn y cytundeb cartref-ysgol a fabwysiadwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol o dan adran 110(1)(a) o Ddeddf 1998(7).
25. Newidiadau ynghylch unrhyw fater a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol y penderfynwyd y byddant yn cael eu gwneud ar ôl dechrau'r flwyddyn ysgol y mae'r manylion yn berthnasol iddi.
26.—(1) Datganiad byr ar y defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn benodol—
(a)y defnydd o'r Gymraeg ym mhob cyfnod allweddol fel yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi ym mhob pwnc neu yn unrhyw bwnc sy'n ffurfio rhan o'r cwricwlwm a, phan roddir hyfforddiant ym mhob pwnc o'r fath yn y Gymraeg i ba raddau, os yw hyn yn berthnasol, mae hyfforddiant amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;
(b)i ba raddau, os yw hyn yn berthnasol, y Gymraeg yw iaith arferol cyfathrebu yn yr ysgol;
(c)unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir hyfforddiant ynddi; ac
(ch)disgrifiad byr o'r trefniadau yn yr ysgol i hyrwyddo parhad yn y rhychwant o hyfforddiant yn y Gymraeg ar gyfer disgyblion—
(i)yn ystod y cyfnod y maent wedi eu cofrestru yn yr ysgol; a
(ii)wrth drosglwyddo o'r ysgol, pan fo'r ysgol honno yn ysgol gynradd, i ysgol uwchradd.
(2) Manylion unrhyw esemptiadau o'r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002 ond heb fod modd adnabod unrhyw ddisgybl unigol yr effeithir arno.
27. Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol ar ddiwedd asesiadau'r cyfnod sylfaen ac ar ddiwedd asesiadau'r cyfnod allweddol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru ym Menter Cyfnewid Data Cymru
28. Yn achos ysgol a chanddi ddisgyblion cofrestredig a oedd yn 15 oed neu'n 16 oed ar 1 Medi ar ddechrau'r flwyddyn ysgol flaenorol, nifer y disgyblion hynny a chanran y nifer hwnnw sy'n dod o fewn y categorïau a ganlyn—
(a)personau mewn addysg lawnamser, hyfforddiant neu ddysgu seiliedig ar waith;
(b)personau mewn cyflogaeth;
(c)personau y mae'n hysbys i'r corff llywodraethu nad ydynt yn dod o fewn telerau (a) neu (b) uchod; ac
(ch)personau nad yw'r corff llywodraethu yn gwybod a ydynt yn dod o fewn unrhyw un neu rai o'r categorïau uchod.
29. Yr wybodaeth yn y ddogfen ddiweddaraf o “Crynodeb o Berfformiad Ysgolion Uwchradd” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r ysgol ar Menter Cyfnewid Data Cymru.
30.—(1) Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.
(2) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosogi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.
Diffinnir “grammar school” gan adran 104(7) o Ddeddf 1998.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 77(a) a (b) o Atodlen 30 i y Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10) a chan O.S. 2010/1151.
O.S. 1999/1442 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 107(b), (c) a (d) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 21 a chan baragraff 47 o Ran 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002, adran 223(1)(b) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu a Rhan 7 o Atodlen 16 iddi a chan O.S. 2010/1152.
Fel y'i diwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, paragraff 105 o Atodlen 2 i Ddeddf Addysg 2002 a chan O.S. 2010/1158.
Fel y'i diwygiwyd gan baragraff 97(2), (3) a (4) o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 9(1) a (2) o Atodlen 3 i Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006, a chan O.S. 2010/1158.
Mae diwygiadau iddi nad ydynt yn gymwys i Gymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: