2011 Rhif 1944 (Cy.211)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(5), 408, 537(1) i (8), a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 19961 a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac adrannau 92 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19982 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt3, ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt bod ymgynghori â hwy yn beth dymunol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: