(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 ac maent yn ailddeddfu, gyda newidiadau, Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2001 sydd yn cael eu dirymu (ynghyd â rheoliadau cysylltiedig eraill).
Fel y Rheoliadau hynny a wnaed yn 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn gosod—
(a)
yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn adroddiadau'r llywodraethwyr o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 (rheoliad 3 ac Atodlen 2);
(b)
y gofynion ynghylch pa iaith neu ieithoedd y dylid llunio'r adroddiadau hynny ynddynt (rheoliad 4); ac
(c)
y gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w gweld yn yr ysgol (rheoliadau 5 a 6).