xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1939 (Cy.207)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011

Gwnaed

29 Gorffennaf 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Awst 2011

Yn dod i rym

1 Medi 2011

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “absenoldeb anawdurdodedig” (“unauthorised absence”) yw achlysur pan gofnodir bod disgybl yn absennol heb awdurdod yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(2) a rhaid dehongli “absenoldeb awdurdodedig” (“authorised absence”) yn unol â hynny;

ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith bob blwyddyn ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 2002;

ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union cyn y flwyddyn ysgol pryd y mae'r corff llywodraethu yn cyhoeddi'r wybodaeth;

ystyr “categori iaith” (“language category”) yw'r categori a ddefnyddir i ddiffinio math a rhychwant yr addysg cyfrwng Gymraeg a ddarperir gan ysgol ac a osodir yn y ddogfen wybodaeth o'r enw “Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru fel Cylchlythyr 023/2007(3);

ystyr “Crynodeb Perfformiad Ysgol Uwchradd” (“Summary of Secondary School Performance”) yw crynodeb o berfformiad ysgol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi;

ystyr “cyfarfod rhieni blynyddol” (“annual parents' meeting”) yw'r cyfarfod rhieni y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei gynnal unwaith ym mhob blwyddyn ysgol o dan adran 33 o Ddeddf 2002(4);

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un o'r cyfnodau a osodir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002(5);

mae “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli'n unol â “foundation phase” yn adran 102 o Ddeddf 2002;

ystyr “cyfran o'r gyllideb” (“budget share”) yw'r swm a ddyrennir i'r corff llywodraethu yn rhinwedd adran 47 o Ddeddf 1998(6);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(7);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(8);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “DEWi” (“DEWi”) yw cronfa ddata menter cyfnewid data Cymru a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (9); ac

mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996(10).

Materion i'w trin mewn adroddiad llywodraethwyr

3.  Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen 2.

Gofynion o ran adroddiad llywodraethwyr

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu yw penderfynu ym mha iaith neu ieithoedd y mae adroddiad y llywodraethwyr i'w lunio, ac ar ba ffurf neu'r ffurfiau y mae i'w lunio ynddi neu ynddynt.

(2Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i'w lunio ynddi.

5.—(1Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod—

(a)rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person cyflogedig yn yr ysgol yn cael (yn rhad ac am ddim) gopi o adroddiad y llywodraethwyr;

(b)copïau o'r adroddiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl) yn yr ysgol; ac

(c)pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i rieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1)(a), i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig na'r gofyniad ym mharagraff (1)(c) yn gymwys os—

(a)yw'r corff llywodraethu yn cymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael (yn ddi-dâl) gopi o'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 ac 11 o Atodlen 2 ac yn hysbysu'r rhieni hynny ar yr un pryd am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 6; a

(b)pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod gwybodaeth a hysbysiad yn cael eu rhoi i'r rhieni hynny nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.

6.  Pan (yn rhinwedd rheoliad 5(2)) nad yw paragraffau (a) nac (c) o reoliad 5(1) yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'i adroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol os gofynnir mewn ysgrifen iddo wneud hynny.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

29 Gorffennaf 2011

Rheoliad 1

ATODLEN 1Y RHEOLIADAU A DDIRYMWYD

Y Rheoliadau a ddirymwydY cyfeirnodauRhychwant y dirymiad
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001O.S.2001/1110 (Cy.54)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002O.S. 2002/1401 (Cy.140)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004O.S. 2004/1735 (Cy.178)Y rheoliadau cyfan
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010O.S. 2010/2431 (Cy.209)Rheoliad 5

Rheoliad 3

ATODLEN 2GWYBODAETH I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIADAU LLYWODRAETHWYR

1.  Pan fo rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol—

(a)manylion y dyddiad, amser a lle ar gyfer y cyfarfod rhieni blynyddol nesaf a'i agenda;

(b)rhywbeth sy'n nodi mai pwrpas y cyfarfod hwnnw fydd trafod adroddiad y llywodraethwyr yn ogystal â sut y mae'r corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod lleol wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol; ac

(c)adroddiad ar yr ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i unrhyw benderfyniadau a gymeradwywyd yn y cyfarfod rhieni blynyddol blaenorol (pan oedd rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal y cyfryw gyfarfod).

2.  Manylion canlynol aelodau'r corff llywodraethu a'i glerc—

(a)enw pob llywodraethwr gan nodi, ym mhob achos, y categori (yn unol â'r diffiniadau yn Rhan 2 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(11)) y mae'r llywodraethwr yn perthyn iddo a, phan fo'r llywodraethwr yn llywodraethwr ex officio, ei fod ef yn llywodraethwr ex officio;

(b)yn achos llywodraethwr penodedig, y person y penodwyd ef ganddo;

(c)mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad pryd y daw tymor ei swydd i ben; ac

(ch)enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'i glerc.

3.  Unrhyw wybodaeth sydd ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y trefniadau ar gyfer yr etholiad nesaf o rieni-lywodraethwyr.

4.  Datganiad ariannol—

(a)sy'n atgynhyrchu neu'n crynhoi unrhyw ddatganiad ariannol y darparwyd copi ohono i'r corff llywodraethu gan yr awdurdod lleol o dan adran 52 o Ddeddf 1998(12) ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr;

(b)sy'n nodi, mewn termau cyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y trefnodd yr awdurdod iddo fod ar gael i'r corff llywodraethu (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn ystod y cyfnod a gwmpaswyd gan yr adroddiad;

(c)sy'n rhoi manylion am y defnydd o unrhyw roddion a roddwyd i'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac

(ch)sy'n nodi cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau o'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.

5.  Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau diwedd cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi.

6.  Yn achos ysgol sydd â disgyblion cofrestredig 15 oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, y Crynodeb diweddaraf o Berfformiad yr Ysgol Uwchradd mewn perthynas â'r ysgol.

7.—(1Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol wedi'u mynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.

(2At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.

8.  Yr wybodaeth sy'n ymwneud â—

(a)disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu gyflogaeth neu hyfforddiant y mae disgyblion yn ymgymryd ag ef ar ôl iddynt ymadael â'r ysgol; a

(b)absenoldeb awdurdodedig disgyblion ac absenoldeb anawdurdodedig disgyblion,

y mae'n ofynnol ei chyhoeddi ym mhrosbectws yr ysgol yn unol â'r rheoliadau a wnaed o dan adran 537(1) o Ddeddf 1996(13).

9.  Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).

10.  Y cyfryw wybodaeth am unrhyw dargedau—

(a)ar gyfer gwelliannau a osodir gan y corff llywodraethu o ran perfformiad disgyblion yn yr ysgol fel y mae'n ofynnol ei chyhoeddi yn rhinwedd rheoliadau a wneir o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 1997(14); a

(b)i ostwng lefel yr absenoldebau anawdurdodedig o ran disgyblion dydd perthnasol yn yr ysgol fel y'u gosodwyd gan y corff llywodraethu yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 63 o Ddeddf 1998(15).

11.  Mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr, crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.

12.  Crynodeb o unrhyw adolygiad a wnaed gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddo yn sgil y cyfryw adolygiad.

13.  Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol a gwyliau hanner tymor, ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.

14.—(1Crynodeb o unrhyw newidiadau i wybodaeth sydd (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996(16) neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998(17)) ym mhrosbectws yr ysgol ers i adroddiad blaenorol y llywodraethwyr gael ei lunio.

(2Pan fo rheoliadau yn cael eu gwneud o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn prosbectysau gwahanol, cymerir bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob prosbectws o'r fath.

15.  Datganiad ar y cwricwlwm a threfniadaeth addysg a dulliau dysgu yn yr ysgol gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau arbennig o ddisgyblion, gan gynnwys y disgyblion hynny sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig a wnaed yn unol ag adran 324 o Ddeddf 1996(18).

16.  Y categori iaith sy'n rhoi'r disgrifiad gorau o'r ysgol.

17.  Manylion am ddefnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn enwedig—

(a)defnydd o'r Gymraeg fel yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen a phob un o'r cyfnodau allweddol i addysgu unrhyw bwnc a'r graddau, os o gwbl, y mae addysg amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;

(b)y graddau, os o gwbl, y mae'r Gymraeg yn iaith gyfathrebu arferol yn yr ysgol;

(c)unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir addysg ynddi; ac

(ch)disgrifiad cryno o'r trefniadau yn yr ysgol i hwyluso parhad yn rhychwant yr addysg yn Gymraeg i ddisgyblion—

(i)yn ystod y cyfnod y maent yn gofrestredig yn yr ysgol; a

(ii)wrth drosglwyddo o'r ysgol, os ysgol gynradd yw'r ysgol honno, i ysgol uwchradd.

18.  Datganiad cryno ar y cyfleusterau toiled a ddarperir yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gofrestredig yn yr ysgol a'r trefniadau a wnaed i lanhau'r cyfleusterau toiled hynny.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 ac maent yn ailddeddfu, gyda newidiadau, Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2001 sydd yn cael eu dirymu (ynghyd â rheoliadau cysylltiedig eraill).

Fel y Rheoliadau hynny a wnaed yn 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn gosod—

(a)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn adroddiadau'r llywodraethwyr o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 (rheoliad 3 ac Atodlen 2);

(b)y gofynion ynghylch pa iaith neu ieithoedd y dylid llunio'r adroddiadau hynny ynddynt (rheoliad 4); ac

(c)y gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w gweld yn yr ysgol (rheoliadau 5 a 6).

(1)

2002 p.32. Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), adran 103(1)(a). Diwygiwyd is-adrannau (3) a (4) o adran 30 gan Ddeddf Addysg 2005, adran 103(1)(b). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 30 a 210 o Ddeddf Addysg 2002 i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

ISBN Rhif 9780750443753.

(4)

Diwygiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), adran 103(2)(a).

(5)

Diddymwyd adran 103(1)(a) gan adran 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (Mccc 5), ond nid yw'r diddymu hwnnw wedi ei gychwyn eto. Diwygiwyd adran 103(4) gan baragraffau 11 i 13 o'r Atodlen i Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Mccc 1).

(6)

Diwygiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 16, paragraffau 6(1), (2)(a) a (b). Diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 16, paragraff 6(1), (3)(a), (b), (c) a (d) a chan O.S. 2010/1158. Mewnosodwyd is-adran (2A) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 16, paragraff 6(1) a (4).

(9)

Gwefan DEWi yw www.dataexchangewales.org.uk.

(10)

Diwygiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 180(a) a diddymwyd is-adran (2) gan y Ddeddf honno, Atodlen 30, paragraff 180(2).

(12)

Diwygiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Addysg 2005 (p.18), Atodlen 18, paragraff 10(1), (2)(a) a (b). Diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, adran 253(1) a (2) (p.22). Mewnosodwyd is-adran (1A) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 18, paragraff 10(1) a (3). Diwygiwyd is-adrannau (1), (1A), (2), (2A) a (7) hefyd gan O.S. 2010/1158. Diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 18, paragraff 10(1), (4)(a) a (b). Diwygiwyd is-adran (2)(b) gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 22, Rhan 3. Diwygiwyd is-adran (2)(d) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 45(1) a (2). Mewnosodwyd is-adran (2A) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 45(1) a (3) a mewnosodwyd is-adran (2B) gan Ddeddf Addysg 2005, Atodlen 18, paragraff 10(1) a (5).

(13)

Amnewidiwyd is-adran (1) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 152(a). Diwygiwyd is-adrannau (1), (6) a (7) gan O.S. 2010/1158. Mewnosodwyd is-adran (4) gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 37. Diwygiwyd is-adran (7)(a) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 152(b) ac Atodlen 31. Diwygiwyd is-adran (7)(b) gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraffau 1 a 60. Diwygiwyd is-adran (7)(b) ymhellach gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 7, Rhan 2, paragraff 6(1) a (5). Diddymwyd is-adrannau (9) a (10) gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 22, Rhan 3.

(14)

Amnewidiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, paragraff 213.

(15)

Diwygiwyd is-adrannau (1), (3) a (4) gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 22, Rhan 3. Mewnosodwyd is-adran (3A) gan Ddeddf Addysg 2002, adran 52(1) a (3).

(16)

Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 ac Atodlen 31 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 57 o Atodlen 9 i Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) a chan O.S. 2010/1158.

(17)

Amnewidiwyd gan Ddeddf Addysg 2002, Atodlen 4, paragraff 7.

(18)

Mewnosodwyd is-adran (4A) gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001, adran 9. Diwygiwyd is-adran (5)(b) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 77(a) a Deddf Addysg 2002, Atodlen 21, paragraff 43. Mewnosodwyd is-adran (5A) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, Atodlen 30, paragraff 77(b). Diwygiwyd is-adrannau (1), (4) a (5) gan O.S. 2010/1158.