Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 1 Medi 2011.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Mae'r rheoliadau a nodir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu.
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad llywodraethwyr” (“governors' report”) yw'r adroddiad y mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu ei baratoi unwaith bob blwyddyn ysgol o dan adran 30 o Ddeddf 2002;
ystyr “blwyddyn adrodd yr ysgol” (“reporting school year”) yw'r flwyddyn ysgol yn union cyn y flwyddyn ysgol pryd y mae'r corff llywodraethu yn cyhoeddi'r wybodaeth;
ystyr “Crynodeb Perfformiad Ysgol Uwchradd” (“Summary of Secondary School Performance”) yw crynodeb o berfformiad ysgol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi;
mae “cyfnod sylfaen” i'w ddehongli'n unol â “foundation phase” yn adran 102 o Ddeddf 2002;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
Materion i'w trin mewn adroddiad llywodraethwyr
3.
Rhaid i bob adroddiad llywodraethwyr gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen 2.
Gofynion o ran adroddiad llywodraethwyr
4.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, mater i'r corff llywodraethu yw penderfynu ym mha iaith neu ieithoedd y mae adroddiad y llywodraethwyr i'w lunio, ac ar ba ffurf neu'r ffurfiau y mae i'w lunio ynddi neu ynddynt.
(2)
Rhaid i'r corff llywodraethu gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol o ran unrhyw iaith ychwanegol sydd i'w defnyddio neu o ran unrhyw ffurf ychwanegol y mae'r adroddiad i'w lunio ynddi.
5.
(1)
Rhaid i'r corff llywodraethu gymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod—
(a)
rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol a phob person cyflogedig yn yr ysgol yn cael (yn rhad ac am ddim) gopi o adroddiad y llywodraethwyr;
(b)
copïau o'r adroddiad ar gael i'w gweld (ar bob adeg resymol ac yn ddi-dâl) yn yr ysgol; ac
(c)
pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod copïau o adroddiad y llywodraethwyr sydd i'w ystyried yn y cyfarfod hwnnw yn cael eu rhoi i rieni nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.
(2)
Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1)(a), i'r graddau y mae'n ymwneud â rhieni disgyblion cofrestredig na'r gofyniad ym mharagraff (1)(c) yn gymwys os—
(a)
yw'r corff llywodraethu yn cymryd y camau hynny sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau bod rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn cael (yn ddi-dâl) gopi o'r wybodaeth sydd yn yr adroddiad yn rhinwedd paragraffau 1, 3, 5, 6, 7 ac 11 o Atodlen 2 ac yn hysbysu'r rhieni hynny ar yr un pryd am eu hawl i gael copi o'r adroddiad llawn yn unol â rheoliad 6; a
(b)
pan fo (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol, bod gwybodaeth a hysbysiad yn cael eu rhoi i'r rhieni hynny nid llai na phythefnos cyn y cyfarfod hwnnw.
6.
Pan (yn rhinwedd rheoliad 5(2)) nad yw paragraffau (a) nac (c) o reoliad 5(1) yn gymwys, rhaid i'r corff llywodraethu roi copi o'i adroddiad llawn i unrhyw riant i ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol os gofynnir mewn ysgrifen iddo wneud hynny.
ATODLEN 1Y RHEOLIADAU A DDIRYMWYD
Y Rheoliadau a ddirymwyd | Y cyfeirnodau | Rhychwant y dirymiad |
|---|---|---|
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) 2001 | Y rheoliadau cyfan | |
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2002 | Y rheoliadau cyfan | |
Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2004 | Y rheoliadau cyfan | |
Rheoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010 | Rheoliad 5 |
ATODLEN 2GWYBODAETH I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIADAU LLYWODRAETHWYR
1.
Pan fo rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu (yn rhinwedd adran 33 o Ddeddf 2002) i gynnal cyfarfod rhieni blynyddol—
(a)
manylion y dyddiad, amser a lle ar gyfer y cyfarfod rhieni blynyddol nesaf a'i agenda;
(b)
rhywbeth sy'n nodi mai pwrpas y cyfarfod hwnnw fydd trafod adroddiad y llywodraethwyr yn ogystal â sut y mae'r corff llywodraethu, y pennaeth a'r awdurdod lleol wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol; ac
(c)
adroddiad ar yr ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i unrhyw benderfyniadau a gymeradwywyd yn y cyfarfod rhieni blynyddol blaenorol (pan oedd rhwymedigaeth ar y corff llywodraethu i gynnal y cyfryw gyfarfod).
2.
Manylion canlynol aelodau'r corff llywodraethu a'i glerc—
(a)
(b)
yn achos llywodraethwr penodedig, y person y penodwyd ef ganddo;
(c)
mewn perthynas â phob llywodraethwr nad yw'n llywodraethwr ex officio, y dyddiad pryd y daw tymor ei swydd i ben; ac
(ch)
enw a chyfeiriad cadeirydd y corff llywodraethu a'i glerc.
3.
Unrhyw wybodaeth sydd ar gael i'r corff llywodraethu ynghylch y trefniadau ar gyfer yr etholiad nesaf o rieni-lywodraethwyr.
4.
Datganiad ariannol—
(a)
(b)
sy'n nodi, mewn termau cyffredinol, sut y defnyddiwyd unrhyw swm y trefnodd yr awdurdod iddo fod ar gael i'r corff llywodraethu (gan gynnwys cyfran yr ysgol o'r gyllideb) yn ystod y cyfnod a gwmpaswyd gan yr adroddiad;
(c)
sy'n rhoi manylion am y defnydd o unrhyw roddion a roddwyd i'r ysgol yn ystod y cyfnod hwnnw; ac
(ch)
sy'n nodi cyfanswm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a dalwyd i aelodau o'r corff llywodraethu yn y cyfnod hwnnw.
5.
Yr wybodaeth ysgol gymharol ddiweddaraf mewn perthynas â pherfformiad yr ysgol mewn asesiadau diwedd cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar DEWi.
6.
Yn achos ysgol sydd â disgyblion cofrestredig 15 oed ar ddechrau blwyddyn adrodd yr ysgol, y Crynodeb diweddaraf o Berfformiad yr Ysgol Uwchradd mewn perthynas â'r ysgol.
7.
(1)
Nifer yr absenoldebau anawdurdodedig a nifer yr absenoldebau awdurdodedig yn ystod blwyddyn adrodd yr ysgol wedi'u mynegi fel canran o gyfanswm y presenoldebau posibl yn ystod y flwyddyn honno.
(2)
At ddibenion y paragraff hwn ystyr “cyfanswm y presenoldebau posibl” yw'r rhif a geir drwy luosi nifer y disgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar ddechrau'r flwyddyn adrodd â nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn honno.
8.
Yr wybodaeth sy'n ymwneud â—
(a)
disgyblion sy'n ymadael â'r ysgol, neu gyflogaeth neu hyfforddiant y mae disgyblion yn ymgymryd ag ef ar ôl iddynt ymadael â'r ysgol; a
(b)
absenoldeb awdurdodedig disgyblion ac absenoldeb anawdurdodedig disgyblion,
9.
Y camau a gymerwyd gan y corff llywodraethu i ddatblygu neu gryfhau cysylltiadau'r ysgol â'r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â'r heddlu).
10.
Y cyfryw wybodaeth am unrhyw dargedau—
(a)
(b)
11.
Mewn perthynas â'r cyfnod ers adroddiad blaenorol y llywodraethwyr, crynodeb o'r ddarpariaeth a wnaed i ddisgyblion gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.
12.
Crynodeb o unrhyw adolygiad a wnaed gan y corff llywodraethu o ran unrhyw bolisïau neu strategaethau a fabwysiadwyd ganddo wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â'r ysgol ac unrhyw gamau a gymerwyd ganddo yn sgil y cyfryw adolygiad.
13.
Dyddiadau dechrau a diwedd pob tymor ysgol a gwyliau hanner tymor, ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf.
14.
(1)
(2)
Pan fo rheoliadau yn cael eu gwneud o dan adrannau 408 neu 537 o Ddeddf 1996 neu o dan adran 92 o Ddeddf 1998 sy'n ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gyhoeddi gwybodaeth wahanol mewn prosbectysau gwahanol, cymerir bod is-baragraff (1) yn cyfeirio at bob prosbectws o'r fath.
15.
16.
Y categori iaith sy'n rhoi'r disgrifiad gorau o'r ysgol.
17.
Manylion am ddefnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol gan ddisgyblion o bob grŵp oedran neu o grwpiau oedran gwahanol gan gynnwys, yn enwedig—
(a)
defnydd o'r Gymraeg fel yr iaith a ddefnyddir yn y cyfnod sylfaen a phob un o'r cyfnodau allweddol i addysgu unrhyw bwnc a'r graddau, os o gwbl, y mae addysg amgen ar gael yn Saesneg yn y pwnc hwnnw;
(b)
y graddau, os o gwbl, y mae'r Gymraeg yn iaith gyfathrebu arferol yn yr ysgol;
(c)
unrhyw gyfyngiad sy'n gymwys i allu rhiant i ddewis yr iaith y rhoddir addysg ynddi; ac
(ch)
disgrifiad cryno o'r trefniadau yn yr ysgol i hwyluso parhad yn rhychwant yr addysg yn Gymraeg i ddisgyblion—
(i)
yn ystod y cyfnod y maent yn gofrestredig yn yr ysgol; a
(ii)
wrth drosglwyddo o'r ysgol, os ysgol gynradd yw'r ysgol honno, i ysgol uwchradd.
18.
Datganiad cryno ar y cyfleusterau toiled a ddarperir yn yr ysgol ar gyfer disgyblion sy'n gofrestredig yn yr ysgol a'r trefniadau a wnaed i lanhau'r cyfleusterau toiled hynny.
Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 ac maent yn ailddeddfu, gyda newidiadau, Reoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2001 sydd yn cael eu dirymu (ynghyd â rheoliadau cysylltiedig eraill).
Fel y Rheoliadau hynny a wnaed yn 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn gosod—
yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn adroddiadau'r llywodraethwyr o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 2002 (rheoliad 3 ac Atodlen 2);
y gofynion ynghylch pa iaith neu ieithoedd y dylid llunio'r adroddiadau hynny ynddynt (rheoliad 4); ac
y gofynion ynghylch rhoi copïau o'r adroddiadau hynny i rieni a sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i'w gweld yn yr ysgol (rheoliadau 5 a 6).