(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 drwy dynnu cyfeiriad at adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn y rhestr o swyddogaethau awdurdodau lleol sy'n gymwys mewn perthynas â phlant (Tabl 1 o Atodlen 1) ac a ragnodir fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” at ddibenion adran 58 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.