Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 191 (Cy.36)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011

Gwnaed

29 Ionawr 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Chwefror 2011

Yn dod i rym

1 Mawrth 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(2) o Fesur a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.  Yn Nhabl 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2010(2) dileer y geiriau —

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Ionawr 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 drwy dynnu cyfeiriad at adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn y rhestr o swyddogaethau awdurdodau lleol sy'n gymwys mewn perthynas â phlant (Tabl 1 o Atodlen 1) ac a ragnodir fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” at ddibenion adran 58 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.