2011 Rhif 191 (Cy.36)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(2) o Fesur a Theuluoedd (Cymru) 20101, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2011.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.
Yn Nhabl 1 o Atodlen 1 i Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) (Diwygio) 20102 dileer y geiriau —
“a.82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (Cydweithrediad rhwng cyrff GIG ac awdurdodau lleol)”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Swyddogaethau Cymorth i Deuluoedd) (Cymru) 2010 drwy dynnu cyfeiriad at adran 82 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 yn y rhestr o swyddogaethau awdurdodau lleol sy'n gymwys mewn perthynas â phlant (Tabl 1 o Atodlen 1) ac a ragnodir fel “swyddogaethau cymorth i deuluoedd” at ddibenion adran 58 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.