http://www.legislation.gov.uk/wsi/2011/1864/contents/made/welsh
Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) (Diwygio) (Cymru) 2011
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2016-07-04
TAI, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tai (Benthyciadau Ffioedd Gwasanaeth) 1992 (“Rheoliadau 1992”) sy'n darparu bod awdurdodau tai yn cael gwneud benthyciadau i'w tenantiaid mewn cysylltiad â ffioedd gwasanaeth am atgyweiriadau neu welliannau. Mae'r diwygiadau sy'n gymwys o ran Cymru'n unig, yn ymwneud â benthyciadau sy'n cael eu gwneud o dan y pŵer disgresiynol yn rheoliad 5 o Reoliadau 1992. Caiff y pŵer hwnnw ei arfer, mewn cysylltiad â fflatiau, gan “awdurdodau tai”. Mae'r term Saesneg “housing authority”, sy'n cyfateb i'r term Cymraeg “awdurdod tai” at ddibenion y diwygiadau hyn, wedi ei ddiffinio yn adran 450B(4) o Ddeddf Tai 1985.