2011 Rhif 1719 (Cy.195)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Rheoliadau canlynol fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd—

a

Rhan B o Atodiad XIV i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/20073 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (y Rheoliad CMO Sengl); a

b

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 543/20084 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran y safonau marchnata ar gyfer cig dofednod.

I'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 19905, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A)6 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

Ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau canlynol, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor7, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru, y breinir ynddynt yn awr y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17, 26(2) a (3), 45(1) a 48(1)8 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19909, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny a'r pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.