Search Legislation

Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2011 Rhif 1715 (Cy.194)

ADEILADU, CYMRU

Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011

Gwnaed

12 Gorffennaf 2011

Yn dod i rym

1 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 108(6), 114(1) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Cyn gwneud y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r personau hynny y maent yn credu eu bod yn addas yn unol â gofynion adran 114(2) o'r Ddeddf.

Yn unol ag adran 114(5) o'r Ddeddf(3), cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy gynnig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011. Deuant i rym ar 1 Hydref 2011.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gontractau adeiladu a wneir ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gontractau adeiladu i'r graddau y mae'r rheiny'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996;

  • ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998(4);

  • ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw atodlen y Prif Reoliadau.

Diwygio rheoliad 3 o'r Prif Reoliadau

2.  Ym mharagraff (b) o reoliad 3 o'r Prif Reoliadau, ar ôl “section 110”, rhodder “or by section 110A”(5).

Diwygio Rhan 1 (Dyfarnu) o'r Atodlen

3.—(1Diwygir Rhan 1 (Dyfarnu) o'r Atodlen fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(1), cyn “of his intention”, rhodder “at any time”.

(3Ar ôl paragraff 7(3) rhodder—

(4) Upon receipt of the referral notice, the adjudicator must inform every party to the dispute of the date that it was received.

(4Ym mharagraff 9(4), yn lle'r ail frawddeg rhodder—

  • Subject to any contractual provision pursuant to section 108A(2) of the Act, the adjudicator may determine how the payment is to be apportioned and the parties are jointly and severally liable for any sum which remains outstanding following the making of any such determination(6).

(5Ym mharagraff 11(1), yn lle'r drydedd frawddeg rhodder—

  • Subject to any contractual provision pursuant to section 108A(2) of the Act, the adjudicator may determine how the payment is to be apportioned and the parties are jointly and severally liable for any sum which remains outstanding following the making of any such determination.

(6Ym mharagraff 15(b) yn lle “draw such inferences from that failure to comply as circumstances may, in the adjudicator’s opinion, be justified” rhodder “draw such inferences from that failure to comply as the circumstances may, in the adjudicator’s opinion, justify”.

(7Ym mharagraff 19(1)—

(a)ym mharagraffau (a) a (b), yn lle “the date”, rhodder “receipt”; a

(b)ym mharagraff (c), rhodder “receipt of” ar ôl y gair “after”.

(8Ym mharagraff 20(b), yn lle “section 111(4)”, rhodder “section 111(9)”(7).

(9Ym mharagraff 21, hepgorer “in accordance with this paragraph”.

(10Ar ôl paragraff 22 rhodder—

22A.(1) The adjudicator may on the adjudicator’s own initiative or on the application of a party correct the decision so as to remove a clerical or typographical error arising by accident or omission.

(2) Any correction of a decision must be made within five days of the delivery of the decision to the parties.

(3) As soon as possible after correcting a decision in accordance with this paragraph, the adjudicator must deliver a copy of the corrected decision to each of the parties to the contract.

(4) Any correction of a decision forms part of the decision.

(11Hepgorer paragraff 23(1).

(12Hepgorer paragraff 24.

(13Ym mharagraff 25, yn lle'r ail frawddeg rhodder—

  • Subject to any contractual provision pursuant to section 108A(2) of the Act, the adjudicator may determine how the payment is to be apportioned and the parties are jointly and severally liable for any sum which remains outstanding following the making of any such determination.

Diwygio Rhan 2 (Talu) o'r Atodlen

4.—(1Diwygir Rhan 2 (Talu) o'r Atodlen fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 5 hepgorer “the expiry of” a rhodder “the expiry of” cyn y geiriau “30 days following completion of the work”.

(3Yn lle paragraff 9, rhodder—

Payment notice

9.(1) Where the parties to a construction contract fail, in relation to a payment provided for by the contract, to provide for the giving of a notice pursuant to section 110A(1) of the Act, the provisions of this paragraph apply.

(2) The payer must, not later than five days after the payment due date, give a notice to the payee complying with sub-paragraph (3).

(3) A notice complies with this sub-paragraph if it specifies the sum that the payer considers to be due or to have been due at the payment due date and the basis on which that sum is calculated.

(4) For the purposes of this paragraph, it is immaterial that the sum referred to in sub-paragraph (3) may be zero.

(5) A payment provided for by the contract includes any payment of the kind mentioned in paragraph 2, 5, 6, or 7 above.

(4Yn lle paragraff 10, rhodder—

Notice of intention to pay less than the notified sum

10.  Where, in relation to a notice of intention to pay less than the notified sum given in accordance with section 111(3) of the Act, the parties fail to agree the prescribed period as provided for in section 111(5), that notice must be given not later than seven days before the final date for payment determined either in accordance with the construction contract, or where no such provision is made in the contract, in accordance with paragraph 8 above.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

12 Gorffennaf 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (O.S. 1998/649) (“y Cynllun”), yn rhannol i adlewyrchu newidiadau a wnaed i'r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol, sef Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53) (“Deddf 1996”), gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20) (“Deddf 2009”), ac yn rhannol i adlewyrchu newidiadau yr awgrymodd Grŵp Gorchwyl Dyfarnu Cyrff Ymbarél y Diwydiant Adeiladu y byddent yn ddymunol.

Mae'r diwygiadau i'r Cynllun a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys o ran contractau adeiladu ar gyfer gwaith adeiladu yng Nghymru.

Mae darpariaethau Rhan 1 o Atodlen y Cynllun yn effeithiol (fel telerau sy'n ymhlyg yng nghontract y partïon) pan fo'r partïon i gontract adeiladu'n methu gwneud darpariaeth yn eu contract ynglŷn ag un neu fwy o amryw o delerau sy'n ymwneud â “dyfarnu” (sef gweithdrefn datrys anghydfodau a gyflwynwyd gan Ddeddf 1996 ar gyfer anghydfodau o dan gontractau adeiladu).

Mae rheoliad 3(3) yn mewnosod darpariaeth newydd yn y Cynllun i'r perwyl bod rhaid i'r dyfarnwr, pan gyfeirir anghydfod ato, roi gwybod i bob parti i'r anghydfod am ddyddiad yr atgyfeiriad.

Mae darpariaethau ynghylch ffioedd a threuliau dyfarnwr yn cael eu diwygio gan reoliad 3(4), (5) ac (13). Effaith y diwygiadau hyn yw sicrhau bod gallu'r dyfarnwr i ddisgwyl i'r ddau barti i'r contract adeiladu dalu ffioedd a threuliau'r dyfarnwr yn dod o dan unrhyw ddarpariaeth ddilys (bendant) i'r gwrthwyneb yn y contract (gweler adran 108A o Ddeddf 1996 a fewnosodwyd gan adran 141 o Ddeddf 2009 ac sydd i gychwyn ar 1 Hydref 2011).

Mae rheoliad 3(7) yn diwygio paragraff 19(1) o'r Cynllun i egluro bod y cyfnod pryd y mae'n rhaid i ddyfarnwr wneud penderfyniad ynghylch anghydfod yn dechrau pan gaiff y dyfarnwr yr atgyfeiriad.

Mae rheoliad 3(10) yn cyflwyno darpariaeth newydd i'r Cynllun i'r perwyl bod gan ddyfarnwyr bŵer i gywiro mân wallau yn eu penderfyniadau. Rhaid i unrhyw gywiriadau o'r fath gael eu gwneud cyn pen pum diwrnod ar ôl y penderfyniad perthnasol.

Mae rheoliad 3(11) a (12) yn diddymu darpariaethau a oedd yn galluogi dyfarnwyr i wneud penderfyniadau terfynol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Rhan 2 o Atodlen y Cynllun sy'n ymwneud â “thalu” gan ymhlygu yn y contract ddarpariaethau ynghylch taliadau i'r graddau bod telerau pendant yn eisiau neu'n ddiffygiol.

Mae adran 110A o Ddeddf 1996 (a fewnosodwyd gan adran 143 o Ddeddf 2009 ac sydd i gychwyn ar 1 Hydref 2011) yn darparu bod rhaid i gontract adeiladu gynnwys darpariaeth i'r perwyl bod rhaid i “hysbysiad talu” (sy'n nodi, o ran pob taliad, y swm y bernir ei fod yn ddyledus) gael ei roi gan y person y mae'r partïon wedi cytuno arno — y talwr, y talai neu bersonau penodol eraill. Pan fo'r partïon wedi methu gwneud darpariaeth bedant yn eu contract o ran pwy sydd i roi'r hysbysiadau hyn, mae rheoliad 4(3) yn mewnosod paragraff 9 newydd yn Rhan 2 o Atodlen y Cynllun i'r perwyl mai cyfrifoldeb y talwr yw hyn.

Mae adran 111 o Ddeddf 1996 (y cafodd yr hen adran 111 o'r Ddeddf honno ei hamnewid gan adran 144 o Ddeddf 2009 ac sydd i gychwyn ar 1 Hydref 2011) yn cyflwyno gofyniad bod rhaid talu'r swm a nodir mewn hysbysiad talu (p'un a yw'n cael ei roi yn unol â theler pendant yng nghontract y partïon ynteu yn rhinwedd y paragraff 9 newydd yn Rhan 2 o Atodlen y Cynllun). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i'r swm mewn hysbysiad o'r fath gael ei herio neu ei ddiwygio drwy roi math o wrth-hysbysiad — sef hysbysiad o fwriad i dalu llai na'r swm a hysbyswyd. Mae rheoliad 4(4) yn amnewid paragraff 10 newydd yn Rhan 2 o'r Atodlen gan ddarparu drwy hynny ar gyfer amseru gwrth-hysbysiad o'r fath pan fo'r partïon wedi methu cytuno ar hyn.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ac mae wedi'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn yn www.legislation.gov.uk.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Mae adran 114(5) yn darparu na chaiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau oni bai bod drafft o'r rheoliadau wedi'i osod gerbron dau Dŷ'r Senedd ac wedi'i gymeradwyo drwy gynnig gan y ddau. Yn rhinwedd paragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae'r ddarpariaeth yn gymwys i Weinidogion Cymru wrth iddynt arfer y swyddogaeth o wneud offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau o'r fath fel pe bai unrhyw gyfeiriad at y naill Dŷ Seneddol neu'r llall yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)

Mewnosodwyd adran 110A gan adran 143(3) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20).

(6)

Mewnosodwyd adran 108A gan adran 141 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.

(7)

Mewnosodwyd adran 111 gan adran 144 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources