- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
ADEILADU, CYMRU
Gwnaed
12 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym
1 Hydref 2011
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 106A(2) a 146(1) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) (“y Ddeddf”) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 106A(4)(b) o'r Ddeddf, cafodd drafft o'r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy gynnig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru) 2011. Daw i rym ar 1 Hydref 2011.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran contract adeiladu i'r graddau y mae'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996; ac
mae'r cyfeiriad at “contract perthnasol” (“relevant contract”) yn gyfeiriad at gontract sydd wedi'i hepgor o weithrediad Rhan 2 o'r Ddeddf yn unol ag erthygl 4 o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998(3).
3. Mae contract adeiladu wedi'i hepgor o weithrediad adran 110(1A) o'r Ddeddf(4) os yw'n gontract y mae parti i gontract perthnasol wedi is-gontractio i drydydd parti rai neu'r cyfan o'i rwymedigaethau o dan y contract hwnnw i wneud gwaith adeiladu, neu drefnu bod eraill yn ei wneud yn unol ag ef.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
12 Gorffennaf 2011
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan 2 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (“y Ddeddf”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â thelerau contractau adeiladu. Mae adran 106A yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i hepgor unrhyw ddisgrifiad o gontractau adeiladu sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu yng Nghymru o weithrediad unrhyw rai neu'r cyfan o ddarpariaethau Rhan 2 o'r Ddeddf. Mae'r Gorchymyn hwn yn hepgor un math o gontract o weithrediad un ddarpariaeth o'r fath.
Adran 110(1A) o'r Ddeddf yw'r ddarpariaeth honno. Mae adran 110(1) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod contractau'n darparu dull digonol i sefydlu pa daliadau sy'n dod yn ddyledus a pha bryd y maent yn ddyledus. Mae adran 110(1A) yn darparu nad yw'r gofyniad hwn wedi'i fodloni os yw'r taliad yn amodol ar gyflawni rhwymedigaethau o dan gontract arall.
Yr enw ar y math o gontract sy'n cael ei hepgor gan y Gorchymyn hwn o ddarpariaethau adran 110(1A) yw “is-gontract mcp haen gyntaf”. Contract yw hwn lle bydd parti — nad yw'n gorff cyhoeddus — i gytundeb a wnaed o dan y fenter cyllid preifat yn is-gontractio i drydydd parti rwymedigaethau o dan y cytundeb hwnnw sy'n ymwneud â gwneud gwaith adeiladu. Mae cytundebau a wneir o dan y fenter cyllid preifat eisoes wedi'u hepgor o weithrediad y cyfan o Ran 2.
Bydd y Gorchymyn hwn felly yn golygu y bydd darpariaethau mewn is-gontractau mcp haen gyntaf, sy'n peri bod taliadau mewn contractau o'r fath yn amodol ar gyflawni rhwymedigaethau mewn contractau eraill (rhwymedigaethau megis darparu tystysgrifau), yn effeithiol. Byddai darpariaethau o'r fath yn aneffeithiol fel arall am na fyddent yn bodloni'r gofyniad a osodir gan adran 110(1A).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ, ac mae wedi'i atodi i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr á'r offeryn yn www.legislation.gov.uk.
1996 p.53; mewnosodwyd adran 106A(1) gan adran 138(3) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (p.20).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd y swyddogaethau i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen II i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1998/648, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.
Mewnosodwyd adran 110(1A) gan adran 142(2) o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: