(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif Reoliadau”).

Mae rheoliad 2(1) yn gohirio'r dyddiad y daw Rhan 7 o'r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012. Mae Rhan 7 o'r prif Reoliadau yn ymdrin â'r modd y mae iawn i'w ddarparu pan fo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn ymuno mewn trefniant i ddarparu gwasanaethau iechyd gyda chorff GIG yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Mae rheoliad 2(2) yn amnewid rheoliad 52(5) newydd yn y prif Reoliadau, i adlewyrchu'r dyddiad newydd y daw Rhan 7 i rym a chymhwyso'r trefniadau iawn trawsffiniol yn y Rhan honno i wasanaethau sydd wedi eu darparu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.