(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yr oedd Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/831 (Cy.125)) (“y prif Reoliadau”) wedi dirymu a disodli Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1748 (Cy.185)).

Mae'r prif Reoliadau yn darparu ar gyfer gwneud taliadau uniongyrchol er mwyn i berson sicrhau darpariaeth o rai gwasanaethau gofal cymdeithasol y byddid yn eu darparu o dan y deddfiadau gofal cymunedol a grybwyllir yn adran 46(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (cynlluniau awdurdod lleol ar gyfer gwasanaethau gofal cymunedol), i ofalwyr o dan adran 2 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (gwasanaethau ar gyfer gofalwyr), neu wasanaethau o dan adran 17 o Ddeddf Plant 1989 (darparu gwasanaethau i blant mewn angen, eu teuluoedd ac eraill).

Mae rheoliadau 3 i 10 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i gywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y testun Cymraeg a gwneud un diwygiad canlyniadol i destun Saesneg y prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gan mai cywiro mân wallau drafftio a gwallau teipograffyddol yn y prif Reoliadau yn unig y maent, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.