2011 Rhif 1605 (Cy.186)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(2), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac a freinir bellach ynddynt hwy2.

I'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a bennir uchod, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19723.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd (gan gynnwys diod)4.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd5, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.