2011 Rhif 1504 (Cy.176)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (Diddymu) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 27 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 19921 i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Yn unol ag adran 27(2) o'r Ddeddf honno, mae Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Caerdydd a'r Fro (“Cardiff and Vale College Further Education Corporation”)3 wedi cydsynio i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”)4 a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”)5.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg y Barri (“Barry College Further Education Corporation”) a Chorfforaeth Addysg Bellach Coleg Glan Hafren (“Coleg Glan Hafren Further Education Corporation”), yn unol ag adran 27(7) o'r Ddeddf honno.