Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2011
Enwi a chychwyn1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2011 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2011.
Diwygio Rheoliadau2.
(1)
(2)
“(7)
Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (2) at 380 o sesiynau i'w cymryd fel cyfeiriad at 378 o sesiynau mewn perthynas â'r flwyddyn ysgol 2010-2011 a'r flwyddyn ysgol 2011-2012.”.
(3)
“5.
(1)
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy'n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2010-2011 a gaiff ei neilltuo (yn llwyr neu yn bennaf) i ddarparu hyfforddiant (gan gynnwys hyfforddiant a fynychir gan staff sy'n addysgu a staff nad ydynt yn addysgu a hyfforddiant a gynhelir ar y cyd ag ysgolion eraill), neu baratoi a chynllunio, ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir.
(2)
Bydd paragraff (1) yn effeithiol o ran dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nhrydydd tymor y flwyddyn ysgol y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddi.
(3)
Os caiff ysgol, yn ystod tymor cyntaf neu ail dymor y flwyddyn ysgol y mae paragraff (1) yn gymwys iddi, ei hatal rhag cyfarfod oherwydd tywydd gwael, mae nifer y sesiynau ysgol y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (2), sef pedair sesiwn, i'w leihau ar gyfer y flwyddyn honno â nifer y sesiynau ysgol pan nad oedd yr ysgol yn gallu cyfarfod (hyd at uchafswm o bedair).
(4)
Pan fo paragraff (1) yn gymwys o ran sesiwn ysgol, mae'r sesiwn honno i'w hystyried at ddibenion rheoliad 4 yn sesiwn pryd yr oedd yr ysgol wedi cyfarfod.”.
Mae Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”) yn gymwys i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac i ysgolion arbennig (os cynhelir hwy felly ai peidio). Maent yn darparu (ymhlith pethau eraill) ar gyfer diwrnod ysgol sydd fel arfer i'w rannu'n ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), a bod ysgolion (nad ydynt yn ysgolion meithrin) yn cyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 4 o Reoliadau 2003 i leihau'r nifer lleiaf o sesiynau ysgol y mae'n rhaid eu cynnal yn y blynyddoedd ysgol 2010-2011 a 2011-2012 o 380 i 378. Yn lle'r hen reoliad 5 yn Rheoliadau 2003 mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn rhoi rheoliad 5 newydd sydd, yn fras, yn darparu bod hyd at bedair sesiwn yn y flwyddyn ysgol 2010-2011 i'w cyfrif fel sesiynau pryd yr oedd yr ysgol wedi cyfarfod os oeddent wedi eu neilltuo i ddarparu hyfforddiant, neu i baratoi a chynllunio, ar gyfer athrawon mewn ysgolion a gynhelir.