Gorchymyn Tenantiaethau Sicr (Diwygio'r Trothwy Rhent) (Cymru) 2011

Nodyn Esboniadol

( Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio'r swm o rent blynyddol sy'n peri, o dan baragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Tai 1988, na chaiff tenantiaeth fod yn denantiaeth sicr pan fo'r rhent blynyddol uwchlaw'r swm hwnnw. Cynyddir y swm hwnnw o £25,000 i £100,000, yn effeithiol o 1 Rhagfyr 2011 ymlaen.

Paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi ohono gan y Gyfarwyddiaeth Dai, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Merthyr Tudful, Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.