2011 Rhif 1130 (Cy.156)
IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU
Rheoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 4, 5, 6 a 10 o Ddeddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 20101 ac maent wedi ymgynghori รข'r personau y mae'n ymddangos iddynt fod ganddynt fuddiant ym mhwnc y Rheoliadau.
Cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad, cyn iddo gael ei wneud, fel sy'n ofynnol gan adran 11 o Ddeddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010.