2011 Rhif 107 (Cy.26)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 33D(3), 33E(3), 33G(3), 33I(3), a 152 o Ddeddf Dysgu a Medrau 20001 yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Myfyrwyr 16 i 18 Oed) (Cymru) 2011 ac maent yn dod i rym ar 14 Chwefror 2011.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cymhwyster sgil allweddol” (“key skill qualification”) yw cymhwyster a restrir felly yng Nghronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru2 a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;

  • mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf Addysg 19963;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19714;

  • ystyr “pwyntiau” (“points”) yw'r pwyntiau a ddyrennir i gwrs neu gyrsiau astudio gan Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy Cymru;

  • ystyr “sefydliad” yw sefydliad yn yr ystyr a roddir i “institution” gan adran 33N(1) o Ddeddf 2000 ond nid yw'n cynnwys y sefydliadau a restrir yn Atodlen 1; ac

  • ystyr “tymor y gwanwyn” (“spring term”) yw'r ail dymor ysgol yn y flwyddyn ysgol yn yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ac sy'n digwydd yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

Dyfarnu ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl3

1

Rhaid i gais gan ddisgybl cofrestredig am ddyfarniad gan bennaeth ysgol ynghylch ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl o dan adran 33D(1) o Ddeddf 2000 gael ei wneud yn ysgrifenedig i'r pennaeth ysgol o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl dechrau tymor y gwanwyn.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i bennaeth ysgol wneud dyfarniad o dan adran 33D(1) o Ddeddf 2000 ynghylch ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl cael y cais gan ddisgybl cofrestredig.

3

Cyn gwneud dyfarniad o dan adran 33D(1) o Ddeddf 2000 rhaid i bennaeth ysgol ymgynghori â'r canlynol—

a

y disgybl a rhiant y disgybl;

b

pennaeth ysgol unrhyw ysgol arall y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol ymgynghori ag ef;

c

pennaeth sefydliad unrhyw sefydliad y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol ymgynghori ag ef; ac

ch

unrhyw bersonau eraill y gwêl y pennaeth ysgol yn dda i ymgynghori â hwy.

4

Mae unrhyw hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y disgybl i'r pennaeth ysgol sy'n datgan nad yw'n bwriadu gwneud cais i'r pennaeth ysgol i wneud dyfarniad o dan adran 33D(1) yn derfynol.

Dewisiadau disgybl o gyrsiau cwricwlwm lleol4

Ni chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyfuniad o gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol os yw cyfanswm pwyntiau'r cwrs hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o gyrsiau astudio yn fwy na 200 o bwyntiau heb gynnwys unrhyw bwyntiau a ddyrannwyd i gwrs neu gyrsiau astudio sy'n arwain at gymhwyster sgil allweddol neu gymhwyster bagloriaeth Cymru y mae disgybl wedi dewis ei ddilyn neu eu dilyn.

Hyd y cyfnod pan fo'n rhaid i'r disgybl ddewis5

Rhaid i ddisgybl ddewis yn ystod tymor y gwanwyn dilyn cwrs neu gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol.

Penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth6

1

Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu o dan adran 33G(1) o Ddeddf 2000 nad oes hawlogaeth gan ddisgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio rhaid iddo wneud hynny o fewn y cynharaf o'r canlynol—

a

3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cyfnod hawlogaeth, neu

b

3 diwrnod gwaith cyn dechrau'r cwrs neu gyrsiau astudio y mae myfyriwr wedi dewis ei ddilyn neu eu dilyn o dan adran 33E o Ddeddf 2000.

2

Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu hynny rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r disgybl a rhiant y disgybl yn ysgrifenedig am y materion canlynol—

a

y penderfyniad a'r rhesymau drosto;

b

y caiff y disgybl neu riant y disgybl wneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu'r penderfyniad hwnnw;

c

o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac

ch

y caiff y disgybl neu riant y disgybl wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad.

3

Rhaid i gais gan ddisgybl neu riant y disgybl o dan baragraff (2)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael hysbysiad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad am ei benderfyniad.

4

Os bydd disgybl neu riant y disgybl yn gwneud cais o dan baragraff (2)(b) i bennaeth ysgol neu i bennaeth sefydliad adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—

a

o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;

b

unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan ddisgybl neu riant y disgybl ynghylch y penderfyniad hwnnw; ac

c

unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.

5

Rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r disgybl a rhiant y disgybl yn ysgrifenedig am y rhesymau drosto.

6

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn unig o ran y dewisiad cyntaf y mae disgybl yn ei wneud o dan adran 33E(1) o Ddeddf 2000 yn unol â rheoliad 5 (ac nid o ran unrhyw ddewisiad wedyn).

Penderfyniad pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth7

1

Os bydd pennaeth ysgol neu bennaeth sefydliad ar gyfer ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol disgybl yn penderfynu o dan adran 33I(1) o Ddeddf 2000 nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio, rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r myfyriwr am y materion canlynol—

a

y penderfyniad a'r rhesymau drosto;

b

y caiff y myfyriwr wneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu'r penderfyniad hwnnw;

c

o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac

ch

y caiff y myfyriwr wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad.

2

Nid oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn y cwrs neu'r cyrsiau astudio ar ôl dyddiad penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o dan adran 33I(1) o Ddeddf 2000.

3

Rhaid i gais gan fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (1)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael hysbysiad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad am ei benderfyniad.

4

Os bydd myfyriwr yn gwneud cais o dan baragraff (1)(b) i bennaeth ysgol neu i bennaeth sefydliad adolygu ei benderfyniad, rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—

a

o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;

b

unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan fyfyriwr ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw; ac

c

unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.

5

Rhaid i'r pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r myfyriwr yn ysgrifenedig amdano a'r rhesymau drosto.

Terfynau amser8

At ddibenion cyfrifo'r cyfnodau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 3(1) a (2), 6(2), (3), (4) a (5) a 7(1), (3), (4), a (5), bernir bod yr hysbysiad neu'r cais wedi dod i law'r person o dan sylw—

a

os defnyddir y post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei bostio;

b

os caiff yr hysbysiad ei draddodi â llaw, dyddiad ei draddodi;

c

os defnyddir post electronig, ar y diwrnod y caiff ei anfon,

oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENSefydliadau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

Rheoliad 2

1

Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — Rhanbarth Gogledd Cymru.

2

Cymdeithas Addysg y Gweithwyr — Rhanbarth De Cymru.

3

Cyngor Cenedlaethol Cymdeithasau Cristnogol Dynion Ieuainc Cymru.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mewnosododd Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (“y Mesur”) ddarpariaethau newydd yn Rhan 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (“Deddf 2000”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2000 yn ymwneud â'r chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru. O ganlyniad i Ran 2 o'r Mesur y caiff y cwricwlwm ar gyfer y chweched dosbarth mewn ysgolion a sefydliadau yn y sector addysg bellach yng Nghymru, ei ehangu i gynnwys hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer disgyblion sydd wedi peidio â bod o oedran ysgol gorfodol, ond nad ydynt hyd yn hyn wedi cyrraedd 19 oed. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y dewisiadau y caiff myfyriwr eu gwneud, penderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad ynghylch hawlogaeth, dyfarniad ysgol berthnasol neu sefydliad perthnasol y disgybl a phenderfyniad y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad i ddileu hawlogaeth.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod cais gan ddisgybl i gael dyfarniad gan bennaeth ysgol ynghylch ei ysgol berthnasol neu ei sefydliad perthnasol yn gorfod cael ei wneud o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl dechrau tymor y gwanwyn. Mae rheoliad 3 yn darparu ymhellach fod yn rhaid i bennaeth ysgol wneud y dyfarniad o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i'r pennaeth ysgol gael hysbysiad am gais y disgybl am ddyfarniad o'r fath.

Mae rheoliad 4 yn darparu na chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau astudio os yw cyfanswm pwyntiau cwrs neu gyrsiau o'r fath yn fwy na 200. Rhaid i ddewis o'r fath gael ei wneud yn ystod tymor y gwanwyn yn y flwyddyn cyn i'r disgybl beidio â bod o oedran ysgol gorfodol (rheoliad 5).

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad pan fydd yn dyfarnu, yn unol ag adran 33G(1) o Ddeddf 2000, a oes hawlogaeth gan y disgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio. Mae rheoliad 6 hefyd yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd disgybl yn dymuno gwneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu ei ddyfarniad o dan adran 33G(1) o Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn gan y pennaeth ysgol neu'r pennaeth sefydliad pan fydd yn dyfarnu, yn unol ag adran 33I(1) o Ddeddf 2000, nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio. Mae rheoliad 7 hefyd yn darparu ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd disgybl yn dymuno gwneud cais i'r pennaeth ysgol neu i'r pennaeth sefydliad adolygu ei ddyfarniad o dan adran 33I(1) o Ddeddf 2000.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pennu'r terfynau amser i hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn.