Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 3 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (“y Mesur”) yn sefydlu targedau statudol ar gyfer y ganran o wastraff trefol awdurdod lleol y mae'n rhaid ei ailgylchu, ei baratoi i'w ailddefnyddio a'i gompostio (“y targedau”). Mae'r Mesur yn gosod atebolrwydd ar awdurdod lleol i gosb ariannol os bydd yn methu â chyrraedd targed.

Mae'r Rheoliadau hyn yn atodi'r Mesur, drwy wneud darpariaeth fanwl ar gyfer monitro a gorfodi'r targedau.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â monitro.

Mae Rheoliad 3 yn penodi Asiantaeth yr Amgylchedd yn awdurdod monitro ar gyfer y targedau.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gasglu gwybodaeth a chadw cofnodion am wastraff trefol.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gyflwyno ffurflen wedi ei chwblhau drwy ddefnyddio system WasteDataFlow, sy'n cynnwys yr holl wybodaeth y mae'n ofynnol iddo ei chasglu a'i chofnodi o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 6 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru a'r awdurdod monitro, drwy hysbysiad, i ofyn am wybodaeth bellach oddi wrth awdurdod lleol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro ddilysu'r wybodaeth a roddir iddo gan awdurdodau lleol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro roi'r wybodaeth a gafodd wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan reoliad 3 i Weinidogion Cymru er mwyn caniatáu iddynt asesu cydymffurfedd â'r targedau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod monitro baratoi adroddiad i Weinidogion Cymru.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chosbau.

Mae rheoliad 9 yn caniatáu i Weinidogion Cymru hepgor cosb.

Mae rheoliad 10 yn gosod swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo os nad yw yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth a roddir yn adran 3(2) o'r Mesur.

Mae rheoliad 11 yn gosod swm y gosb ariannol y mae awdurdod lleol yn atebol iddo os yw'n methu â chydymffurfio â gofynion o dan y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth gyffredinol am gosbau.