xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Tramgwyddau

3.  Mae person sy'n torri unrhyw un neu rai o'r gwaharddiadau yn rheoliad 2 yn cyflawni tramgwydd ac, ar gollfarn ddiannod, yn agored—

(a)i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 51 wythnos;

(b)i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol; neu

(c)i'r ddeubeth.