2010 Rhif 65 (Cy.15)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.

Mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol a roddir ar waith gan y Gorchymyn hwn gael effaith fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.