2010 Rhif 2994 (Cy.248) (C.134)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 20101, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Y diwrnod penodedig2

10 Ionawr 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o'r Mesur–

a

adran 2 i'r graddau y mae'n gymwys i'r awdurdodau Cymreig;

b

adran 4;

c

adran 5;

ch

adran 6;

d

adran 17; ac

dd

adran 18.

Darpariaeth Arbedion3

Mae Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 20072 yn parhau i fod yn effeithiol er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i 26(1D) o Ddeddf Plant 20043 yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.

Huw LewisY Dirprwy Weinidog dros Blant, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau hynny o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) a bennir yn Erthygl 2 ar 10 Ionawr 2011.

Mae Erthygl 2(1)(a) yn dwyn i rym adran 2 o'r Mesur i'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau Cymreig. Mae adran 2 eisoes mewn grym i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru.

Mae adrannau 2 i 6 o'r Mesur yn ymwneud â rhwymedigaethau'r awdurdodau Cymreig i baratoi a chyhoeddi strategaethau ynglŷn â chyfrannu at ddileu tlodi plant. Yr awdurdodau Cymreig fel y'u diffiniwyd yn adran 6 o'r Mesur yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol, awdurdod tân ac achub Cymreig, awdurdod Parc Cenedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Erthygl 3 yn arbed effaith Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i adran 26(1D) o Ddeddf Plant 20044 yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau canlynol wedi cael eu dwyn i rym yng Nghymru gan Orchmynion Cychwyn sydd wedi eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 57

1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)

O.S. 2010/1699

Adrannau 58 (1)—(5), (6)(a), (7)—(14)

1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)

O.S. 2010/1699

Adrannau 59—65

1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)

O.S. 2010/1699

Adrannau 19—56

1 Ebrill 2011

O.S. 2010/2582

Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1—18, paragraffau 21—28.

1 Ebrill 2011

O.S. 2010/2582

Adran 73 ac Atodlen 2 (i'r graddau y maent yn berthnasol i Ddeddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006).

1 Ebrill 2011

O.S. 2010/2582