Search Legislation

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2994 (Cy.248) (C.134)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010

Gwnaed

15 Rhagfyr 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 74(2) a 75(3) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Arbedion) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Y diwrnod penodedig

2.  10 Ionawr 2011 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o'r Mesur–

(a)adran 2 i'r graddau y mae'n gymwys i'r awdurdodau Cymreig;

(b)adran 4;

(c)adran 5;

(ch)adran 6;

(d)adran 17; ac

(dd)adran 18.

Darpariaeth Arbedion

3.  Mae Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007(2) yn parhau i fod yn effeithiol er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i 26(1D) o Ddeddf Plant 2004(3) yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.

Huw Lewis

Y Dirprwy Weinidog dros Blant, un o Weinidogion Cymru

15 Rhagfyr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau hynny o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”) a bennir yn Erthygl 2 ar 10 Ionawr 2011.

Mae Erthygl 2(1)(a) yn dwyn i rym adran 2 o'r Mesur i'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau Cymreig. Mae adran 2 eisoes mewn grym i'r graddau y mae'n gymwys i Weinidogion Cymru.

Mae adrannau 2 i 6 o'r Mesur yn ymwneud â rhwymedigaethau'r awdurdodau Cymreig i baratoi a chyhoeddi strategaethau ynglŷn â chyfrannu at ddileu tlodi plant. Yr awdurdodau Cymreig fel y'u diffiniwyd yn adran 6 o'r Mesur yw Gweinidogion Cymru, awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol, awdurdod tân ac achub Cymreig, awdurdod Parc Cenedlaethol, Cyngor Cefn Gwlad, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Chwaraeon Cymru.

Mae Erthygl 3 yn arbed effaith Rheoliadau Cynllun Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2007 er gwaethaf rhoi adran 26(1A) i adran 26(1D) o Ddeddf Plant 2004(4) yn lle adran 26(1) yn unol ag adran 4(3) o'r Mesur.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau canlynol wedi cael eu dwyn i rym yng Nghymru gan Orchmynion Cychwyn sydd wedi eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 571 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699
Adrannau 58 (1)—(5), (6)(a), (7)—(14)1 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699
Adrannau 59—651 Medi 2010 (mewn perthynas ag ardaloedd awdurdod lleol penodedig)O.S. 2010/1699
Adrannau 19—561 Ebrill 2011O.S. 2010/2582
Adran 72 ac Atodlen 1 paragraffau 1—18, paragraffau 21—28.1 Ebrill 2011O.S. 2010/2582
Adran 73 ac Atodlen 2 (i'r graddau y maent yn berthnasol i Ddeddf Plant 1989, Deddf Addysg 2002 a Deddf Gofal Plant 2006).1 Ebrill 2011O.S. 2010/2582

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources