xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr isafswm tâl mae'n rhaid i werthwyr nwyddau ei godi am fagiau siopa untro. Caiff y Rheoliadau eu gwneud o dan adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid Hinsawdd 2008 ac Atodlen 6 iddi.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn ymdrin â diffiniadau a gweinyddwyr. Mae'n cynnwys diffiniad o “bag siopa untro” a diffiniad o “gwerthwr”; ac mae'n penodi cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yn weinyddwyr o dan y Rheoliadau.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau'n ymdrin â'r isafswm tâl y mae'n rhaid i werthwr ei godi am fag siopa untro a'r mathau o fagiau siopa untro nad yw'r gofyniad i godi tâl yn gymwys ar eu cyfer (nodir y bagiau o dan sylw yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau).
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau'n ymdrin â chadw, cyflenwi a chyhoeddi cofnodion gan werthwyr.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau'n pennu'r amgylchiadau pan fo gwerthwr yn torri'r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau'n ymwneud â sancsiynau sifil. Mae'n cyflwyno Atodlenni 2 a 3 ac yn ymdrin ag amgylchiadau pan na ellir gwneud cynnig ffurfiol i osod cosb benodedig neu wneud gofyniad yn ôl disgresiwn.
Mae Atodlen 2 yn rhoi pŵer i weinyddwyr i osod cosbau ariannol penodedig ac mae'n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau gweithdrefnol cysylltiedig. Mae Atodlen 3 yn rhoi pŵer i weinyddwyr osod gofynion yn ôl disgresiwn ac mae'n cynnwys hawliau a rhwymedigaethau gweithdrefnol cysylltiedig.
Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau'n ymdrin â gorfodaeth a pheidio â chydymffurfio. Mae'n rhoi pwerau gorfodi i weinyddwyr; yn caniatáu i weinyddwyr adennill costau gorfodi penodol y maent yn rhesymol wedi mynd iddynt; ac yn caniatáu i weinyddwyr adennill arian am gosbau a chostau gorfodi drwy'r llysoedd sifil neu, os yw'r llys yn gorchymyn hynny, fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn llys. Mae'r Rhan hon yn cyflwyno Atodlen 4 sy'n caniatáu i weinyddwyr osod cosbau ar werthwyr sy'n methu â chydymffurfio â gofynion penodol a osodwyd arnynt cyn hynny. Mae'r Rhan hon hefyd yn caniatáu i weinyddwyr ei gwneud yn ofynnol i werthwyr gyhoeddi manylion unrhyw sancsiynau sifil y maent wedi mynd iddynt.
Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau'n ymdrin â materion gweinyddol megis cwmpas pwerau gweinyddwyr o dan y Rheoliadau, darpariaeth gyffredinol mewn perthynas ag apelau a dyletswyddau gweinyddwyr i gyhoeddi canllawiau ynghylch sut y byddant yn arfer y pwerau sancsiynu sifil a gorfodi sydd ganddynt o dan y Rheoliadau.
Comisiynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Swyddfa Gwell Rheoleiddio Lleol (“SGRhLl”) i gynnal arolwg o'r cynnydd a wnaed gan bob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru o ran gweithio yn ôl egwyddorion rheoleiddio da, fel a nodir ym mharagraff 23 o Atodlen 6 i Ddeddf Newid Hinsawdd 2008. Gellir cael copi o adroddiad SGRhLl gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Mae asesiad effaith wedi cael ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau yn unol â'r canlynol:
(i)Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37) a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/96/EC (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.81); a
(ii)Erthygl 16 o Gyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 94/62/EC dyddiedig 20 Rhagfyr 1994 ar becynnu a gwastraff pecynnu (OJ Rhif L365, 31.12.1994, t.10) a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 219/2009 (OJ Rhif L87, 31.3.2009, t.109).