xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“y Mesur”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn cychwyn y darpariaethau o fewn Rhan 2 o'r Mesur sy'n ymwneud â gwarchod plant a ddarpariaeth gofal dydd i blant o dan wyth mlwydd oed. Bwriedir i'r darpariaethau hyn gael eu defnyddio yn lle'r darpariaethau o fewn Rhan XA o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf Honno (gwarchod plant a gofal dydd i blant ifanc yng Nghymru) (“Deddf 1989”), sydd ar hyn o bryd yn llywodraethu ac yn rheoleiddio gofal o'r fath a ddarperir yng Nghymru, ac a ddirymir gan y Gorchymyn hwn.

Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a gynhwysir yn erthyglau 3 a 4, mae erthygl 2 ac Atodlen 1 yn dwyn i rym ar1 Ebrill 2011 Ran 2 o'r Mesur sef, yn fwy penodol:

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn yn arbed Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 er gwaethaf diddymu'r darpariaethau o Ddeddf 1989 y gwnaed y Rheoliadau hynny odanynt.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn ac Atodlenni 2 a 3 iddo yn gwneud arbediad a darpariaeth drosiannol o ganlyniad i gychwyn Rhan 2 o'r Mesur a diddymu Rhan XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno. Yn benodol, yn Atodlen 2, gwneir darpariaeth i sicrhau nad effeithir ar achosion cyfreithiol o dan, neu mewn perthynas â Rhan XA o Ddeddf 1989 ac Atodlen 9A i'r Ddeddf honno.

Mae Atodlen 3 yn cynnwys arbedion a darpariaeth drosiannol. Yn benodol—