xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2CAIS I GOFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR

Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestru

3.—(1Rhaid i geisydd am gofrestriad fel gwarchodwr plant—

(a)bodloni'r gofynion a ragnodir yn Rhan 1 o Atodlen 1, sy'n cynnwys y gofynion a ragnodir at ddibenion adran 24(3)(b) o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant); a

(b)cydymffurfio â'r gofynion yn Rhan 3 (personau cofrestredig).

(2Rhaid i geisydd am gofrestriad fel darparydd gofal dydd i blant—

(a)bodloni'r gofynion a ragnodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, sy'n cynnwys y gofynion a ragnodir at ddibenion adran 26(3)(b) o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant); a

(b)cydymffurfio â'r gofynion yn Rhan 3, 4 a 5.

Gwybodaeth a dogfennau sydd i'w cyflwyno ynghyd â chais i gofrestru

4.—(1Rhaid i gais o dan adran 24(1) (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant) o'r Mesur—

(a)bod mewn ysgrifen ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

(b)cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol; ac

(c)cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yno.

(2Rhaid i gais o dan adran 26(1) (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant) o'r Mesur —

(a)bod mewn ysgrifen ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;

(b)cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol; ac

(c)cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 2 mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yno.

Tystysgrif gofrestru

5.  Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan adran 28(2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau) gynnwys y manylion canlynol–

(a)enw, cyfeiriad a rhif teleffon y swyddfa briodol;

(b)enw'r person a gofrestrwyd;

(c)yn achos person a gofrestrwyd fel darparydd gofal dydd, cyfeiriad y man lle y darperir y gofal dydd;

(ch)enw'r person â chyfrifoldeb, os penodwyd un;

(d)pan fo'r cofrestriad yn ddarostyngedig i unrhyw amodau, manylion yr amodau;

(dd)y dyddiad cofrestru;

(e)datganiad i'r perwyl y caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu'r cofrestriad, os na ddarperir y gwarchod plant neu'r gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn unol â'r amodau a osodwyd;

(f)datganiad i'r perwyl bod y dystysgrif yn berthynol i'r person y'i dyroddwyd iddo gan Weinidogion Cymru yn unig, ac na ellir ei throsglwyddo i unrhyw berson arall.