RHAN 2CAIS I GOFRESTRU O DAN RAN 2 O'R MESUR
Gofynion rhagnodedig ar gyfer cofrestruI13
1
Rhaid i geisydd am gofrestriad fel gwarchodwr plant—
a
bodloni'r gofynion a ragnodir yn Rhan 1 o Atodlen 1, sy'n cynnwys y gofynion a ragnodir at ddibenion adran 24(3)(b) o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant); a
b
cydymffurfio â'r gofynion yn Rhan 3 (personau cofrestredig).
2
Rhaid i geisydd am gofrestriad fel darparydd gofal dydd i blant—
a
bodloni'r gofynion a ragnodir yn Rhan 2 o Atodlen 1, sy'n cynnwys y gofynion a ragnodir at ddibenion adran 26(3)(b) o'r Mesur (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant); a
b
cydymffurfio â'r gofynion yn Rhan 3, 4 a 5.
Gwybodaeth a dogfennau sydd i'w cyflwyno ynghyd â chais i gofrestruI24
1
Rhaid i gais o dan adran 24(1) (ceisiadau i gofrestru: gwarchod plant) o'r Mesur—
a
bod mewn ysgrifen ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;
b
cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol; ac
c
cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhan 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yno.
2
Rhaid i gais o dan adran 26(1) (ceisiadau i gofrestru: gofal dydd i blant) o'r Mesur —
a
bod mewn ysgrifen ar ffurflen a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru;
b
cael ei anfon neu'i ddanfon i'r swyddfa briodol; ac
c
cynnwys yr wybodaeth a'r dogfennau y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 2 mewn perthynas â'r materion a grybwyllir yno.
Tystysgrif gofrestruI35
Rhaid i dystysgrif gofrestru a roddir i geisydd o dan adran 28(2)(b) o'r Mesur (cofnodi ar y gofrestr a thystysgrifau) gynnwys y manylion canlynol–
a
enw, cyfeiriad a rhif teleffon y swyddfa briodol;
b
enw'r person a gofrestrwyd;
c
yn achos person a gofrestrwyd fel darparydd gofal dydd, cyfeiriad y man lle y darperir y gofal dydd;
ch
enw'r person â chyfrifoldeb, os penodwyd un;
F1d
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
dd
y dyddiad cofrestru;
e
datganiad i'r perwyl y caiff Gweinidogion Cymru ddiddymu'r cofrestriad, os na ddarperir y gwarchod plant neu'r gofal dydd, yn ôl fel y digwydd, yn unol â'r amodau a osodwyd;
f
datganiad i'r perwyl bod y dystysgrif yn berthynol i'r person y'i dyroddwyd iddo gan Weinidogion Cymru yn unig, ac na ellir ei throsglwyddo i unrhyw berson arall.