2010 Rhif 2543 (Cy.212) (C.122)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 20061 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2010.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006,

  • ystyr “Deddf 1996” (“the EA 1996”) yw Deddf Addysg 1996.

Diwrnodau penodedig

2

Daw darpariaethau canlynol Deddf 2006 i rym ar 31 Hydref 2010—

a

adran 88;

b

adran 89 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

c

adrannau 90 a 91;

ch

adran 92 ac eithrio isadran 8(b):

d

adrannau 93 i 95;

dd

adran 96 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;

e

adran 97;

f

adrannau 98 a 99 at ddibenion gwneud rheoliadau o dan yr adrannau newydd 20(2A) a 22A o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 20033;

ff

adran 102 at ddibenion gwneud rheoliadau;

g

adran 108:

ng

adran 167;

h

adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau a osodir ym mharagraff (i);

i

yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu—

  • yn Neddf 1996, adrannau 550A a 550B,

  • yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19984, adran 61 (yn llawn),

  • yn Neddf Addysg 19975, adrannau 4 a 5,

  • yn Neddf Addysg 20026, y diffiniad o “pupil” yn adran 176(3),

  • yn Neddf Gofal Plant 20067, paragraff 42 o Atodlen 2.

3

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 5 Ionawr 2011 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

a

adrannau 98 a 99; a

b

adran 102.

Leighton AndrewsY Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 88 i 99, 102, 108 a 167 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 31 Hydref 2010. Mae adrannau 98, 99 a 102 yn cael eu dwyn i rym at ddibenion gwneud rheoliadau ar 31 Hydref 2010 ac yn cychwyn yn llawn ar 5 Ionawr 2011.

Mae adran 88 i 96 yn ymwneud â disgyblaeth ac ymddygiad mewn ysgol a gwaharddiad o'r ysgol. Maent yn sefydlu pŵer statudol i orfodi disgyblaeth ysgol a mesurau mwy penodedig sy'n ymwneud â disgyblion a waharddwyd a chyfrifoldeb rhieni am ymddygiad plant. Mae'r darpariaethau hyn hefyd yn ailddeddfu darpariaethau cyfreithiol eraill ar gyfrifoldebau cyrff llywodraethu am ddisgyblu a phenderfyniad y pennaeth ar bolisi ymddygiad.

Mae adrannau 97 i 99 yn ymestyn argaeledd contractau rhianta a gorchmynion rhianta mewn perthynas â chamymddwyn mewn ysgol.

Mae adran 102 yn caniatáu ar gyfer rheoliadau a all ei gwneud yn ofynnol i benaethiaid drefnu cyfweliadau ailintegreiddio ar gyfer disgyblion a waharddwyd.

Mae adran 108 yn ymestyn pwerau'r heddlu i symud triwantiaid o fannau cyhoeddus yn ystod oriau ysgol yn adran 16 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) i gynnwys disgyblion a waharddwyd.

Mae adran 167 yn diwygio adran 176 o Ddeddf Addysg 2002 fel bod y gofyniad i ymgynghori â disgyblion a osodwyd ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu yn gymwys mewn perthynas â disgyblion sy'n cael addysg feithrin.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

O.S. Rhif

Adran 1

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 4

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Adran 37(1) a (2)(a)

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 38

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 39

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 40

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adrannau 43-45

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 47

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 53

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 55

9 Chwefror 2009

2008/1429 (Cy.148)

Adran 57 yn rhannol

15 Mawrth 2010

2010/736 (Cy.73)

gweddill

2 Ebrill 2010

Adran 89 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Adran 96 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Adran 156

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 164

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Adran 166

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 169

12 Hydref 2009

2009/2545 (Cy.207)

Adran 170

12 Hydref 2009

2009/2545 (Cy.207)

Adran 171

12 Hydref 2009

2009/2545 (Cy.207)

Adran 175

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Adran 184 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Adran 184 yn rhannol

2 Ebrill 2010

2010/736 (Cy.73)

Atodlen 5 yn rhannol

15 Mawrth 2010

2010/736 (Cy.73)

gweddill

2 Ebrill 2010

Atodlen 17

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Medi 2009

2009/1027 (Cy.89)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Ionawr 2010

2009/2545 (Cy.207)

Atodlen 18 yn rhannol

2 Ebrill 2010

2010/736 (Cy.73)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis yn ddiweddarach).