(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r ail orchymyn cychwyn i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) (“Deddf 2009”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Tachwedd 2010 baragraffau 11, 13 a 27 o Atodlen 12 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru (a'r cofnodion cysylltiedig yn Atodlen 16), paragraffau 14 i 19 a 29 o Atodlen 12 (a chofnodion cysylltiedig yn Atodlen 16), adrannau 174 a 192 i'r graddau y maent yn ymwneud â'r paragraffau yn eu trefn yn Atodlen 12; ac adran 266 i'r graddau y mae'n ymwneud â chofnodion perthnasol yn Atodlen 16.

Mae Atodlen 12 i Ddeddf 2009 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”) a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) (“Deddf 2000”) mewn perthynas â Chymru. Mae paragraff 15 o Atodlen 12 yn amnewid adran 30(1) o Ddeddf 1997 er mwyn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu ac ag achredu cymwysterau. Yn lle'r diffiniad o “external qualification” a geir yn Rhan 5 o Ddeddf 1997 rhoddir diffiniad o “relevant qualification”. Mae paragraffau 17 ac 19 o Atodlen 12 yn rhoi swyddogaethau ychwanegol mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu. Mae paragraff 27 o Atodlen 12 yn dileu o Ddeddf 2000 y gofyniad am i gyrsiau sy'n arwain at ddyfarnu cymwysterau ar gyfer y rhai o dan 19 oed fod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae gweddill paragraffau Atodlen 12 sy'n cael eu cychwyn gan y Gorchymyn hwn yn gwneud mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau canlyniadol eraill. Mae paragraffau cyfatebol Atodlen 16 yn gwneud diddymiadau a dirymiadau.

Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym adran 259 o Ddeddf 2009 ar 1 Hydref 2010. Mae'r adran hon yn diwygio adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Drwy ddiddymu'r geiriau “in England” a geir yn adran 76(1)(b), gall y Cyfrin Gyngor bennu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru (yn ogystal ag yn Lloegr) yn sefydliadau cymwys i ddyfarnu graddau sylfaen.

Mae erthyglau 3 i 5 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol fel y bernir bod y cyrff dyfarnu hynny sy'n gydnabyddedig, neu a gaiff eu trin fel pe baent yn gydnabyddedig, cyn y dyddiad penodedig, yn gydnabyddedig, ac y bernir bod cymwysterau, a achredir cyn y dyddiad penodedig, yn ddarostyngedig i ofyniad achredu ac yn achrededig, a hynny, o ran y ddau beth, o dan yr adrannau a amnewidir yn Neddf 1997.