xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 2413 (Cy.207) (C.118)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010

Gwnaed

30 Medi 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 269(3), (7) ac (8) o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2010.

(2Yn y Gorchymyn hwn:

Y Diwrnod Penodedig

2.  Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar y dyddiad penodedig—

(a)adrannau 174 a 192 o Ddeddf 2009 i'r graddau y maent yn ymwneud â pharagraffau 11, 13 a 27 o Atodlen 12 (i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru); paragraffau 14 i 19 a 29 o Atodlen 12; a'r cofnodion cysylltiedig yn Atodlen 16;

(b)adran 266 o Ddeddf 2009 i'r graddau y mae'n ymwneud—

(i)â'r diddymiadau canlynol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 16:

(a2)adran 30(1C), (1D), (2) a (6) o Ddeddf 1997;

(b2)adran 32(4A) o Ddeddf 1997;

(c2)adran 32A(6) o Ddeddf 1997;

(ch2)paragraff 5(6) o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg 2002(3);

(d2)adran 162(2) i (5) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008(4);

(ii)â'r diddymiadau neu'r dirymiadau canlynol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 16 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru:

(a2)adrannau 21 i 26A o Ddeddf 1997;

(b2)paragraff 214 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(5);

(c2)adran 103(2) a (3) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(6) a pharagraff 69 o Atodlen 9 iddi;

(ch2)yn adran 216(2) o Ddeddf Addysg 2002, y geiriau “paragraphs 1 to 4 and 9 of Schedule 17, and section 189 so far as relating to those paragraphs,”;

(d2)paragraffau 1 i 4 a'r pennawd mewn sgript italig o flaen paragraff 1 o Atodlen 17 i Ddeddf Addysg 2002;

(dd2)paragraff 69 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002;

(e2)paragraff 7 o Atodlen 1 i Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005(7);

(f2)paragraff 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Gofal Plant 2006(8) a'r pennawd mewn sgript italig sy'n dod o'i flaen;

(ff2)paragraff 21 o Atodlen 14 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(9);

(g2)adrannau 161 ac 163 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008;

(c)adran 259 o Ddeddf 2009;

(ch)y diddymiad a bennir yn Atodlen 16 yn adran 76(1)(b) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(10) sef diddymu'r geiriau “in England”.

Cydnabyddiaeth mewn cysylltiad â dyfarnu cymwysterau neu eu dilysu

3.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys os cydnabyddir person (neu os caiff ei drin fel pe cydnabyddir ef), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(cb) o Ddeddf 1997(11), a'i fod yn dyfarnu neu'n dilysu cymhwyster sy'n cael ei achredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.

(2Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, bernir bod y person yn cael ei gydnabod gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu'r cymhwyster hwnnw neu'r disgrifiad hwnnw o gymhwyster.

Gofyniad am achredu

4.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys os achredir cymhwyster (“y cymhwyster”), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.

(2Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, mae'r cymhwyster i'w drin fel pe bai'n ddarostyngedig i ofyniad am achredu yn unol â dyfarniad a wneir o dan adran 30(1)(f) o Ddeddf 1997.

Cymwysterau Achrededig

5.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys os achredir ffurf ar gymhwyster (“y ffurf ar gymhwyster”), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 ac y bernir, yn rhinwedd erthygl 4, ei bod yn ddarostyngedig i ofyniad am achredu.

(2Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, caiff y ffurf ar y cymhwyster ei thrin fel pe bai wedi ei hachredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(h) o Ddeddf 1997.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru.

30 Medi 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r ail orchymyn cychwyn i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) (“Deddf 2009”). Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Tachwedd 2010 baragraffau 11, 13 a 27 o Atodlen 12 i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru (a'r cofnodion cysylltiedig yn Atodlen 16), paragraffau 14 i 19 a 29 o Atodlen 12 (a chofnodion cysylltiedig yn Atodlen 16), adrannau 174 a 192 i'r graddau y maent yn ymwneud â'r paragraffau yn eu trefn yn Atodlen 12; ac adran 266 i'r graddau y mae'n ymwneud â chofnodion perthnasol yn Atodlen 16.

Mae Atodlen 12 i Ddeddf 2009 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”) a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) (“Deddf 2000”) mewn perthynas â Chymru. Mae paragraff 15 o Atodlen 12 yn amnewid adran 30(1) o Ddeddf 1997 er mwyn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu ac ag achredu cymwysterau. Yn lle'r diffiniad o “external qualification” a geir yn Rhan 5 o Ddeddf 1997 rhoddir diffiniad o “relevant qualification”. Mae paragraffau 17 ac 19 o Atodlen 12 yn rhoi swyddogaethau ychwanegol mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu. Mae paragraff 27 o Atodlen 12 yn dileu o Ddeddf 2000 y gofyniad am i gyrsiau sy'n arwain at ddyfarnu cymwysterau ar gyfer y rhai o dan 19 oed fod yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ar wahân ar ran Gweinidogion Cymru.

Mae gweddill paragraffau Atodlen 12 sy'n cael eu cychwyn gan y Gorchymyn hwn yn gwneud mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau canlyniadol eraill. Mae paragraffau cyfatebol Atodlen 16 yn gwneud diddymiadau a dirymiadau.

Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym adran 259 o Ddeddf 2009 ar 1 Hydref 2010. Mae'r adran hon yn diwygio adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992. Drwy ddiddymu'r geiriau “in England” a geir yn adran 76(1)(b), gall y Cyfrin Gyngor bennu sefydliadau addysg bellach yng Nghymru (yn ogystal ag yn Lloegr) yn sefydliadau cymwys i ddyfarnu graddau sylfaen.

Mae erthyglau 3 i 5 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol fel y bernir bod y cyrff dyfarnu hynny sy'n gydnabyddedig, neu a gaiff eu trin fel pe baent yn gydnabyddedig, cyn y dyddiad penodedig, yn gydnabyddedig, ac y bernir bod cymwysterau, a achredir cyn y dyddiad penodedig, yn ddarostyngedig i ofyniad achredu ac yn achrededig, a hynny, o ran y ddau beth, o dan yr adrannau a amnewidir yn Neddf 1997.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif yr O.S.
Adran 20512 Ionawr 2010O.S. 2009/3341 (Cy. 292)
Atodlen 1412 Ionawr 2010O.S. 2009/3341 (Cy. 292)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2009/3317, O.S. 2010/303 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1891), O.S. 2010/1151 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2010/1702).

(10)

1992 p.13. Mewnosodwyd adran 76(1)(b) gan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (p.25) adran 19(2).

(11)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).