xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Mae'r erthygl hon yn gymwys os achredir ffurf ar gymhwyster (“y ffurf ar gymhwyster”), yn union cyn y diwrnod penodedig, gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 ac y bernir, yn rhinwedd erthygl 4, ei bod yn ddarostyngedig i ofyniad am achredu.
(2) Yn effeithiol o'r diwrnod penodedig ymlaen, caiff y ffurf ar y cymhwyster ei thrin fel pe bai wedi ei hachredu gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(1)(h) o Ddeddf 1997.