RHAN 2Grant ar gyfer meddalwedd a gymeradwywyd

Talu grant5

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 9(1) a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni—

a

bod y cyflenwr a gymeradwywyd wedi cyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd i'r ceisydd a bod y feddalwedd wedi'i gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;

b

bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd a gymeradwywyd i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol â'r Rheoliad UE; ac

c

bod cydymffurfio wedi bod ag unrhyw amod ar gyfer talu'r grant neu unrhyw ran ohono.

2

Caiff Gweinidogion Cymru—

a

talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd;

b

talu'r grant ar y fath adeg, neu drwy'r fath randaliadau ar y fath ysbeidiau neu adegau, ag y dichon Gweinidogion Cymru bennu; ac

c

rhoi un grant yn unig mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Cymreig cymwys.