RHAN 1Rhagarweiniol

Dehongli2

1

Yn y Cynllun hwn—

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;

  • ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—

    1. a

      sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 19953;

    2. b

      sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar ddyddiad gwneud y cais am grant; ac

    3. c

      sy'n mesur 15 o fetrau neu fwy o hyd yn gyfan gwbl;

  • ystyr “cyflenwr a gymeradwywyd” (“approved supplier”) yw cyflenwr a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1) mewn cysylltiad â'r feddalwedd a gymeradwywyd;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20064;

  • ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw data'r llyfr log, data'r datganiad trawslwytho a data'r datganiad glanio y mae'n ofynnol o dan y Rheoliad UE ei gofnodi a'i ddarlledu drwy ddull electronig;

  • ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;

  • ystyr “meddalwedd a gymeradwywyd” (“approved software”) yw meddalwedd a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1);

  • ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â chwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19675; ac

  • ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw—

    1. a

      tan 31 Rhagfyr 2010, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn—

      1. i

        Erthyglau 1 i 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bel6); a

      2. ii

        Pennod 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/20077;

    2. b

      ar 1 Ionawr 2011 ac wedi hynny, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn Adran 1 o Bennod 1 o Deitl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/20068.

2

Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.