- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Cynllun hwn—
ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 1995(1);
sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar ddyddiad gwneud y cais am grant; ac
sy'n mesur 15 o fetrau neu fwy o hyd yn gyfan gwbl;
ystyr “cyflenwr a gymeradwywyd” (“approved supplier”) yw cyflenwr a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1) mewn cysylltiad â'r feddalwedd a gymeradwywyd;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2);
ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw data'r llyfr log, data'r datganiad trawslwytho a data'r datganiad glanio y mae'n ofynnol o dan y Rheoliad UE ei gofnodi a'i ddarlledu drwy ddull electronig;
ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;
ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;
ystyr “meddalwedd a gymeradwywyd” (“approved software”) yw meddalwedd a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1);
ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â chwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967(3); ac
ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw—
tan 31 Rhagfyr 2010, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn—
Erthyglau 1 i 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bel(4)); a
Pennod 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/2007(5);
ar 1 Ionawr 2011 ac wedi hynny, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn Adran 1 o Bennod 1 o Deitl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006(6).
(2) Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.
OJ Rhif L409, 30.12.2006, t. 1.
OJ Rhif L295, 4.11.2008, t. 3.
OJ Rhif L343, 22.12.2009, t. 1.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: