RHAN 4Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant

Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant11

1

Os ymddengys i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 9(1)(a)—

a

bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi cael ei dorri neu bod diffyg cydymffurfiad ag ef; neu

b

bod y ceisydd wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny9,

cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant yn ôl, neu ddal unrhyw ran ohono'n ôl, mewn perthynas â'r cais ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd ar hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, heb ystyried a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd neu i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraff 5(2)(a).

2

Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

a

roi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

b

rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol; ac

c

ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.