RHAN 3Ceisiadau am grant
Adolygu dyfarniad10
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 9(1)(b) neu 9(2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff 9(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais am adolygiad o dan y paragraff hwn ar ddyddiad heb fod yn ddiweddarach na 6 mis o ddyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 9(1) neu 9(2).
3
Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi—
a
enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad, ac os nad y person hwnnw yw'r person a enwir yn y dyfarniad, enw a chyfeiriad y person a enwir yn y dyfarniad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;
b
pa ddyfarniad o eiddo Gweinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;
c
manylion y sail y ceisir yr adolygiad arno; ac
ch
y newid a geisir i'r dyfarniad.
4
Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull arall o gyfathrebiad electronig y mae modd ei atgynhyrchu.
5
Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo a dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'n ysgrifenedig y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto.
6
Wrth adolygu dyfarniad caiff Gweinidogion Cymru—
a
ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (p'un ai a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad ai peidio);
b
gwahodd y ceisydd i ddarparu'r fath wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad a ystyrir ganddynt ei fod yn briodol; ac
c
rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.