RHAN 4Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant
Dirymu, dal yn ôl ac adennill grant11
1
Os ymddengys i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg wedi iddynt gymeradwyo cais o dan baragraff 9(1)(a)—
a
bod unrhyw amod a osodwyd o dan y paragraff hwnnw wedi cael ei dorri neu bod diffyg cydymffurfiad ag ef; neu
b
bod y ceisydd wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 17 o Ddeddf Pysgodfeydd 1981 neu y dichon ei fod wedi gwneud hynny9,
cânt ddirymu'r gymeradwyaeth i'r cais hwnnw, neu ddal y grant yn ôl, neu ddal unrhyw ran ohono'n ôl, mewn perthynas â'r cais ac os gwnaed unrhyw daliad grant, cânt adennill oddi wrth y ceisydd ar hawliad, swm sy'n cyfateb i'r cyfan neu unrhyw ran o'r taliad a wnaed felly, heb ystyried a wnaed y taliad grant yn uniongyrchol i'r ceisydd neu i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd yn rhinwedd paragraff 5(2)(a).
2
Cyn dirymu cymeradwyaeth neu ddal yn ôl unrhyw grant neu wneud hawliad yn rhinwedd is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
a
roi eglurhad ysgrifenedig i'r ceisydd o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;
b
rhoi cyfle i'r ceisydd wneud sylwadau ysgrifenedig o fewn unrhyw amser y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried yn rhesymol; ac
c
ystyried unrhyw sylwadau o'r fath.
Llog12
1
Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu adennill swm ar gais yn unol â pharagraff 11(1), cânt, yn ychwanegol, adennill llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o 1% uwchben LIBOR wedi'i gyfrifo yn ddyddiol am y cyfnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod ar ôl hwnnw y talwyd y swm arno ac sy'n gorffen ar y diwrnod yr adenillir y swm arno.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “LIBOR” (“LIBOR”), mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod, yw cyfradd sterling dri-misol Llundain a gynigir rhwng banciau sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw wedi'i dalgrynnu os oes angen at ddau bwynt degol.
3
Mewn unrhyw achos ar gyfer adennill o dan y Cynllun hwn, bydd tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru yn datgan beth yw'r LIBOR sy'n gymwys ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn dystiolaeth ddiwrthbrawf o'r LIBOR o dan sylw os yw'r dystysgrif hefyd yn datgan bod Banc Lloegr wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r LIBOR o dan sylw.