RHAN 3Ceisiadau am grant

Gwahoddiad i geisio am grant7

1

Caiff Gweinidogion Cymru o bryd i'w gilydd gyhoeddi gwahoddiad i wneud ceisiadau am grant.

2

Rhaid i wahoddiad gynnwys—

a

manylion meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd;

b

manylion yr amodau cymhwystra am grant;

c

gofynion ffurf y cais a'r dull o'i wneud;

ch

unrhyw ofynion ar gyfer darparu dogfennau, gwybodaeth ac ymgymeriadau i gefnogi'r cais; a

d

y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais.

Ceisiadau8

1

Rhaid i gais am grant gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn unol â gofynion y gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1).

2

Ac eithrio fel y darperir yn is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais ar y dyddiad cau neu cyn hynny.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dderbyn cais ar ôl y dyddiad cau os ydynt wedi'u bodloni—

a

bod amodau penodol y ceisydd yn peri ei bod yn afresymol disgwyl i'r cais gael ei wneud erbyn y dyddiad cau; a

b

bod y dyddiad erbyn pryd y gwneir y cais mor fuan ag y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl.

4

Caiff Gweinidogion Cymru, cyn dyfarnu ar unrhyw gais, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Dyfarnu ar gais9

1

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad cau, neu ar ôl cael unrhyw wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani yn unol â pharagraff 8(4), rhaid i Weinidogion Cymru—

a

nodi a chymeradwyo, yn ddarostyngedig i'r fath amodau ag a ystyrir yn briodol ganddynt, y ceisiadau hynny a wnaed yn unol â gwahoddiad a wnaed o dan baragraff 7(1) sy'n bodloni darpariaethau'r Cynllun hwn; a

b

gwrthod unrhyw geisiadau eraill.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru wrthod cais os ydynt o'r farn bod porthladd gweinyddu'r cwch pysgota wedi cael ei newid i borthladd yng Nghymru gyda'r prif bwrpas o sicrhau bod y cwch pysgota yn gwch pysgota Cymreig cymwys at ddibenion y Cynllun hwn.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cais o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r gymeradwyaeth honno ac o unrhyw amodau y mae'n ddarostyngedig iddynt.

4

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan is-baragraffau (1)(b) neu (2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff (1)(a), rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig—

a

o'r rhesymau dros y gwrthodiad hwnnw neu dros osod yr amod; a

b

o'r hawl i wneud cais am adolygiad o dan baragraff 10.

Adolygu dyfarniad10

1

Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais o dan baragraffau 9(1)(b) neu 9(2), neu'n cymeradwyo cais yn ddarostyngedig i unrhyw amod o dan is-baragraff 9(1)(a), caiff y person a ymgeisiodd am y grant wneud cais i Weinidogion Cymru, yn unol â darpariaethau'r paragraff hwn, am adolygiad o'r dyfarniad hwnnw.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi cael cais am adolygiad o dan y paragraff hwn ar ddyddiad heb fod yn ddiweddarach na 6 mis o ddyddiad y dyfarniad perthnasol o dan baragraffau 9(1) neu 9(2).

3

Rhaid i gais am adolygiad o dan y paragraff hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi—

a

enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad, ac os nad y person hwnnw yw'r person a enwir yn y dyfarniad, enw a chyfeiriad y person a enwir yn y dyfarniad ac ar ba sail y mae'r person yn ceisio adolygiad;

b

pa ddyfarniad o eiddo Gweinidogion Cymru sydd i'w adolygu a dyddiad y dyfarniad hwnnw;

c

manylion y sail y ceisir yr adolygiad arno; ac

ch

y newid a geisir i'r dyfarniad.

4

Caniateir gwneud cais o dan y paragraff hwn drwy'r post neu drwy ffacs neu ddull arall o gyfathrebiad electronig y mae modd ei atgynhyrchu.

5

Pan wneir cais o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r dyfarniad a nodir ynddo a dod i benderfyniad terfynol arno a hysbysu'n ysgrifenedig y person sy'n gwneud y cais am yr adolygiad o'r penderfyniad hwnnw a'r rhesymau drosto.

6

Wrth adolygu dyfarniad caiff Gweinidogion Cymru—

a

ystyried unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall a gyflwynwyd gan y ceisydd (p'un ai a oedd y ddogfen neu'r dystiolaeth honno ar gael ar yr adeg y gwnaed y dyfarniad ai peidio);

b

gwahodd y ceisydd i ddarparu'r fath wybodaeth bellach sy'n berthnasol i'r adolygiad a ystyrir ganddynt ei fod yn briodol; ac

c

rhoi cyfle i'r ceisydd roi tystiolaeth a gwneud sylwadau yn bersonol neu drwy gynrychiolydd.