RHAN 2Grant ar gyfer meddalwedd a gymeradwywyd
Meddalwedd a gymeradwywyd a chyflenwyr a gymeradwywyd3
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi rhestr sy'n pennu—
a
meddalwedd sy'n gallu—
i
cofnodi data gweithgareddau pysgota'n electronig; a
ii
darlledu data gweithgareddau pysgota'n electronig yn y ffurf ofynnol; a
b
cyflenwyr y feddalwedd honno.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “y ffurf ofynnol” (“required format”) yw ffurf a bennir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliad UE.
Cymhwystra am grant4
1
Caiff person wneud cais, yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwn, i Weinidogion Cymru am grant, os yw'r person hwnnw—
a
yn feistr, yn berchennog neu'n siartrwr cwch pysgota Cymreig cymwys; a
b
wedi prynu meddalwedd a gymeradwywyd gan gyflenwr a gymeradwywyd, neu wedi comisiynu cyflenwr a gymeradwywyd i gyflenwi meddalwedd a gymeradwywyd, i'w defnyddio ar y cwch hwnnw.
2
Yn y paragraff hwn, mae “meistr” (“master”) yn cynnwys y person y mae'r cwch pysgota dan ei ofal am y tro.
Talu grant5
1
Caiff Gweinidogion Cymru dalu unrhyw grant, neu unrhyw ran ohono, wedi i'r cais gael ei gymeradwyo o dan baragraff 9(1) a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni—
a
bod y cyflenwr a gymeradwywyd wedi cyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd i'r ceisydd a bod y feddalwedd wedi'i gosod yn y cwch pysgota Cymreig cymwys;
b
bod y ceisydd wedi defnyddio'r feddalwedd a gymeradwywyd i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol â'r Rheoliad UE; ac
c
bod cydymffurfio wedi bod ag unrhyw amod ar gyfer talu'r grant neu unrhyw ran ohono.
2
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
talu'r grant i'r ceisydd neu'n uniongyrchol i'r cyflenwr a gymeradwywyd ar ran y ceisydd;
b
talu'r grant ar y fath adeg, neu drwy'r fath randaliadau ar y fath ysbeidiau neu adegau, ag y dichon Gweinidogion Cymru bennu; ac
c
rhoi un grant yn unig mewn cysylltiad ag unrhyw gwch pysgota Cymreig cymwys.
Swm y grant6
O ran swm y grant—
a
rhaid iddo beidio â bod yn fwy na chost prynu neu gyflenwi'r feddalwedd a gymeradwywyd; a
b
caiff fod yn swm llai o faint bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.