RHAN 1Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Cynllun hwn yw Cynllun Cychod Pysgota (Darlledu Data Gweithgareddau Pysgota yn Electronig) (Cymru) 2010 a daw i rym ar 20 Hydref 2010.
2
Mae'r Cynllun hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
1
Yn y Cynllun hwn—
ystyr “cais” (“application”) yw cais am grant o dan y Cynllun hwn ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli'n unol â hynny;
ystyr “cwch pysgota Cymreig cymwys” (“eligible Welsh fishing boat”) yw cwch pysgota—
- a
sydd wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran 2 o Ddeddf Llongau Masnach 19953;
- b
sydd â'i borthladd gweinyddu yng Nghymru ar ddyddiad gwneud y cais am grant; ac
- c
sy'n mesur 15 o fetrau neu fwy o hyd yn gyfan gwbl;
- a
ystyr “cyflenwr a gymeradwywyd” (“approved supplier”) yw cyflenwr a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1) mewn cysylltiad â'r feddalwedd a gymeradwywyd;
mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20064;
ystyr “data gweithgareddau pysgota” (“fishing activities data”) yw data'r llyfr log, data'r datganiad trawslwytho a data'r datganiad glanio y mae'n ofynnol o dan y Rheoliad UE ei gofnodi a'i ddarlledu drwy ddull electronig;
ystyr “y dyddiad cau” (“the closing date”) yw'r dyddiad hwnnw y dichon Gweinidogion Cymru ei bennu a'i gyhoeddi o bryd i'w gilydd fel y dyddiad y mae'n rhaid cyflwyno cais am grant arno neu o'i flaen;
ystyr “grant” (“grant”) yw grant o dan y Cynllun hwn;
ystyr “meddalwedd a gymeradwywyd” (“approved software”) yw meddalwedd a bennir mewn rhestr a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 3(1);
ystyr “porthladd gweinyddu” (“port of administration”) yw'r porthladd y dyroddir ohono'r drwydded a roddir mewn cysylltiad â chwch pysgota o dan adran 4 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 19675; ac
ystyr “y Rheoliad UE” (“the EU Regulation”) yw—
- a
tan 31 Rhagfyr 2010, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn—
- i
Erthyglau 1 i 3 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bel6); a
- ii
Pennod 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/20077;
- i
- b
ar 1 Ionawr 2011 ac wedi hynny, y darpariaethau sy'n ymwneud â chofnodi a darlledu data gweithgareddau pysgota a osodir yn Adran 1 o Bennod 1 o Deitl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/20068.
- a
2
Ystyr unrhyw rwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi deunydd o dan y Cynllun hwn yw rhwymedigaeth i beri bod y deunydd hwnnw ar gael mewn modd a fydd yn sicrhau ei bod yn weddol debygol y bydd y rheini sy'n gymwys am grant yn ei weld.