(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn, a wnaed gyda chymeradwyaeth y Trysorlys, yn darparu ar gyfer talu grantiau fel cyfraniad tuag at gost prynu neu gyflenwi meddalwedd sy'n angenrheidiol i gofnodi ac i ddarlledu'n electronig ddata gweithgareddau pysgota yn unol ag—

a

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar 21 Rhagfyr 2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell;

b

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1077/2008 ar 3 Tachwedd 2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1966/2006 ar gofnodi ac adrodd yn electronig am weithgareddau pysgota ac ar ddulliau synhwyro o bell ac sy'n diddymu Rheoliad (EC) Rhif 1566/2007; ac

c

Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1224/2009 ar 20 Tachwedd 2009 sy'n sefydlu system o reolaeth Gymunedol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau'r polisi pysgodfeydd cyffredin, ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 847/96, (EC) Rhif 2371/2002, (EC) Rhif 811/2004, (EC) Rhif 768/2005, (EC) Rhif 2115/2005, (EC) Rhif 2166/2005, (EC) Rhif 388/2006, (EC) Rhif 509/2007, (EC) Rhif 676/2007, (EC) Rhif 1098/2007, (EC) Rhif 1300/2008, (EC) Rhif 1342/2008 ac yn diddymu Rheoliadau (EEC) Rhif 2847/93, (EC) Rhif 1627/94 ac (EC) Rhif 1966/2006.

Yn Rhan 2, mae paragraff 3 yn darparu ar gyfer rhestrau cyhoeddedig o feddalwedd a gymeradwywyd ac o gyflenwyr a gymeradwywyd, paragraff 4 yn pennu'r meini prawf cymhwystra ar gyfer grant, paragraff 5 yn ymwneud â thalu grant, a pharagraff 6 yn ymwneud â swm y grant.

Yn Rhan 3, mae paragraff 7 yn darparu ar gyfer rhoi gwahoddiadau i ymgeisio am grant, paragraff 8 yn ymwneud â gwneud cais am grant, a pharagraff 9 yn ymwneud â dyfarnu ar geisiadau am grant, gan gynnwys y pŵer i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir a gofynion parthed rhoi hysbysiad. Mae paragraff 10 yn darparu ar gyfer adolygu dyfarniad i wrthod cais neu ddyfarniad i osod amodau ynghlwm wrth unrhyw gais a gymeradwyir.

Yn Rhan 4, mae paragraff 11 yn darparu ar gyfer dirymu, dal yn ôl ac adennill grant mewn amgylchiadau penodol ac mae paragraff 12 yn galluogi talu llog ar symiau a adenillir.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r offeryn hwn gan na ragwelir y bydd yn cael unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.